Syr Bryn Terfel i berfformio yn seremoni goroni'r Brenin Charles

Mae Syr Bryn Terfel wedi cael ei ddewis i ganu yn seremoni goroni'r Brenin Charles.
Bydd y bas-bariton yn un o dri unawdydd bydd yn canu yn y seremoni ar 6 Mai.
Y soprano Pretty Yende a'r bariton Roderick Williams fydd y ddau unawdydd arall.
Brenin Charles ei hun sydd wedi dewis y rhaglen gerddorol ar gyfer y coroni, sydd yn cael ei gynnal yn Abaty Westminster.
Dywedodd y Brenin ei fod wedi dewis y rhaglen i arddangos ystod eang o dalent gerddorol y DU a'r Gymanwlad.