Joe Biden yn ymweld â Wcráin am y tro cyntaf ers dechrau'r brwydro yno
Mae Joe Biden wedi teithio i Kyiv, a hynny am y tro cyntaf ers dechrau'r brwydro yn erbyn ymosodiad Rwsia yn y wlad bron i flwyddyn yn ôl.
Bydd y newyddion yn synnu nifer wedi i'r Tŷ Gwyn ddweud yr wythnos ddiwethaf na fyddai Mr Biden yn teithio i Wcráin.
Yr Arlywydd Biden yw'r arweinydd diweddaraf o'r gorllewin i deithio i'r brifddinas Wcráin. Mae Emmanuel Macron o Ffrainc, Canghellor Yr Almaen, Olaf Scholz a Rishi Sunak eisoes wedi teithio yno yn ddiweddar.
Ers iddo gyrraedd Kyiv, mae Mr Biden wedi cwrdd â Volodymyr Zelensky i drafod darparu taflegrau a phecyn cymorth milwrol i'r wlad.
Dywedodd Mr Zelensky bod y pecyn cymorth milwrol gafodd ei gytuno yn werth £415.7m, gyda disgwyl y bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Ychwanegodd Joe Biden y bydd mwy o sancsiynau yn cael eu gosod ar Rwsia, a bydd cymorth i Wcráin yn parhau dros y misoedd i ddod.
Llun: Twitter/ Volodymyr Zelensky