Yr heddlu'n cadarnhau eu bod wedi darganfod corff Nicola Bulley
Mae Heddlu Sir Gaerhirfryn wedi cadarnhau mai corff Nicola Bulley gafodd ei ddarganfod yn Afon Wyre ddydd Sul.
Diflannodd y fam 45 oed ar 27 Ionawr wrth fynd â'i chi am dro ar lan yr afon ym mhentref St Michael's on Wyre.
Ers ei diflaniad roedd sylw wedi ei roi i'r achos ar hyd a lled y DU, ac i ymdrechion yr heddlu i'w darganfod.
Wrth siarad y tu allan i bencadlys Heddlu Sir Gaerhirfryn, dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Peter Lawson "nad dyma oedd y canlyniad roeddem ni eisiau," ac ychwanegodd ei fod yn diolch i bawb am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad.
Dywedodd fod yr achos wedi bod yn "gymhleth ac yn emosiynol iawn" a bod "effaith fawr" wedi bod ar deulu Ms Bulley a'r gymuned leol.
Dywedodd teulu Ms Bulley y bydd hi wastad yn eu cof.
"Fyddwn ni fyth yn gwybod sut ddioddefodd Nikki yn ei heiliadau olaf a bydd hynny gyda ni am byth .
"Nikki oedd ein byd - hi oedd yr un oedd yn gwneud ein bywydau yn arbennig, a does dim modd taflu cysgod dros hynny."
Mae'r teulu hefyd wedi beirniadu ymddygiad y cyfryngau a'r wasg yn ystod yr ymchwiliad, gan eu cyhuddo o "gam-ddyfynnu a phardduo" cymar Ms Bulley - Paul Ansell, ei pherthnasau a ffrindiau
“Mae'n drist meddwl y bydd yn rhaid ni egluro wrth blant Nicola fod y wasg ac aelodau o'r cyhoedd wedi cyhuddo eu tad o wneud rhywbeth o'i le, a'u bod wedi cam ddyfynnu a phardduo enw da ei ffrindiau a'i theulu.
"Mae'n gwbwl warthus, ac ni all hyn ddigwydd i deulu arall. Gadewch lonydd i ni nawr," medd datganiad ar ran y teulu.