Degau wedi marw yn dilyn llifogydd ym Mrasil

Mae'r awdurdodau ym Mrasil yn dweud bod o leiaf 36 o bobl wedi marw yn sgil llifogydd a thirlithriadau ger arfordir gorllewinol y wlad.
Fe wnaeth llywodraeth talaith Sao Paulo ddweud bod yr ardal wedi gweld 600mm o law ddydd Sul - dwbl y cyfanswm arferol ar gyfer mis Chwefror.
Yn sgil y glaw trwm, mae llifogydd a thirlithriadau wedi achosi difrod mewn trefi ar draws y dalaith.
Hyd yn hyn, mae 36 o farwolaethau wedi'u cadarnhau, gan gynnwys merch saith oed.
Mae stad o argyfwng 180 diwrnod o hyd wedi ei gyhoeddi mewn chwech o drefi ar draws y dalaith: São Sebastião, Caraguatatuba, Ilhabela, Ubatuba, Guarujá a Bertioga.
Yn São Sebastião, mae'r maer wedi dweud bod 50 o dai wedi'u dymchwel ac mae'r amodau tywydd yn ei gwneud yn anodd i dimau chwilio ac achub.
"Dyw timau chwilio ac achub methu cyrraedd rhai llefydd, mae'n sefyllfa anhrefnus," meddai Felipe Augusto.
"Dydy ni ddim yn gwybod graddfa'r difrod hyd yn hyn. Rydym yn ceisio achub y bobl sydd wedi'u heffeithio."
Mae llywodraethwr talaith Sao Paulo, Tarcísio de Freitas, wedi cyhoeddi y bydd pecyn cymorth gwerth £1.2m yn cael ei ddarparu i bobl leol sydd wedi'u heffeithio.
Ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd arlywydd Brasil, Luiz Inácio Lula da Silva, y bydd yn ymweld â'r ardaloedd sydd wedi'i heffeithio ddydd Llun.
"Rydym yn mynd i uno pob adran o'r llywodraeth a, gydag undod y gymdeithas, rydym yn mynd i drin y rhai sydd wedi'i hanafu, chwilio am y rhai sydd ar goll ac ail adeiladu'r prif ffyrdd, cysylltiadau pŵer a chyfathrebu yn yr ardal."
Mae disgwyl rhagor o law trwm yn yr ardal dros y dyddiau nesaf, gan godi pryderon y bydd amodau yn gwaethygu ar gyfer timau chwilio ac achub.
Llun: Neuadd Dinas Sao Sebastiao