Newyddion S4C

BAFTAs

All Quiet on the Western Front yn cipio saith o wobrau'r BAFTAs

NS4C 20/02/2023

Mae'r ffilm ryfel Almaeneg 'All Quiet on the Western Front' wedi hawlio'r sylw yng ngwobrau'r BAFTAs, gan ennill saith gwobr yn ystod y seremoni nos Sul. 

Fe wnaeth y ffilm, sydd yn dilyn milwyr Almaeneg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, dorri record ar ôl ennill y nifer fwyaf o wobrau gan ffilm mewn iaith dramor. 

Yn ystod y seremoni yn Llundain, cipiodd y ffilm y wobr am y ffilm orau a'r cyfarwyddwr gorau, sef Edward Berger. 

'The Banshees of Inisherin' ac 'Elvis' oedd yr enillwyr mawr eraill, gan dderbyn pedair gwobr yr un. 

Fe wnaeth y comedi tywyll 'Banshees' gipio'r wobr am y ffilm Brydeinig orau a hefyd y gwobrau ar gyfer yr actorion cynorthwyol gorau - sef Kerry Condon a Barry Keoghan. 

Llwyddodd Elvis i ennill y wobr ar gyfer yr actor gorau, gydag Austin Butler yn dod i'r brig ar y noson.

Y ffilm hon hefyd gafodd y gwobrau ar gyfer gwisgoedd, colur a chastio. 

Cate Blanchett enillodd y wobr am yr actores orau, a hynny am ei pherfformiad yn y ffilm 'Tar', sydd yn dilyn arweinydd cerddorfa sydd yn wynebu honiadau o gamdriniaeth. 

Bu'n noson siomedig i'r ffilm 'Everything Everywhere All at Once', gan iddi ennill dim ond un wobr ar gyfer golygu er iddi dderbyn 10 enwebiad. 

Bydd ffocws y byd ffilm nawr yn troi at wobrau'r Oscars ar 12 Mawrth.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.