Y cyflwynydd chwaraeon Dickie Davies wedi marw

20/02/2023
Dickie Davies

Yn 94 oed, bu farw'r cyflwynydd chwaraeon Dickie Davies.

Roedd yn wyneb cyfarwydd i filiynau o bobl yn ystod ei gyfnod yn cyflwyno rhaglen 'World of Sport' rhwng 1968 a 1985.

Ar ôl i'r rhaglen honno ddod i ben fe wnaeth barhau i ddarlledu i ITV, gan ganolbwyntio ar reslo, bocsio, snwcer a dartiau. 

Yn ddiweddarach aeth i weithio i Eurosport.

Yn ddarlledwr amryddawn ar deledu byw, fe roddodd nifer yn y maes darlledu deyrngedau iddo yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth nos Sul. 

Dywedodd Piers Morgan mai Davies oedd "un o'r goreuon yn ei faes", gyda Richard Keys yn ei ddisgrifio fel darlledwr chwedlonol, a'i farwolaeth yn "ddiwedd cyfnod".

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.