Snwcer: Shaun Murphy yn erbyn Robert Milkins yn rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Cymru

Fe fydd Shaun Murphy yn wynebu Robert Milkins yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yn Llandudno nos Sul.
Fe gurodd Murphy Pang Junxu yn y rownd gynderfynol gyda Milkins yn trechu Tian Pengfei hefyd o tseina. Fe gurodd Milkins Ali Carter, John Higgins a Ronnie O’Sullivan ar y ffordd.
Fe gwblhaodd Murphy gliriad o 147 yn rownd yr 16 olaf yn erbyn Daniel Wells.
Mae gwobr o £80,000 ar gyfer yr enillydd. Os ydy Milkins yn ennill fe fydd hefyd yn sicrhau bonws o £150,000 am gyrraedd rhif un ymhlith detholion cyfres BetVictor.