Newyddion S4C

streic

Gweithwyr ambiwlans yng Nghymru yn cynnal tridiau o streiciau

NS4C 20/02/2023

Fe fydd tua 1,500 o weithwyr ambiwlans yng Nghymru yn cynnal streic ddydd Llun ar ôl gwrthod cynnig tâl gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener.

Fe fydd y gweithwyr hefyd yn streicio dydd Mawrth a dydd Mercher. Mae Ambiwlans Cymru wedi cynghori pobl i baratoi ar gyfer y streiciau.

Dywedodd Ambiwlans Cymru: “Mae streic yn parhau ar gyfer dydd Llun, ddydd Mawrth a dydd Mercher. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar ein gwasanaeth.

"Cynlluniwch ymlaen llaw a stocio i fyny ar eich meddyginiaeth, edrychwch ar ôl eich hun a'ch anwyliaid, a dim ond ffonio 999 pan fydd gwir angen."

Dywedodd undeb y GMB fod 66% o'i haelodau wedi gwrthod cynnig Llywodraeth Cymru, a oedd yn cynnig codiad cyflog o 3% ychwanegol i'r cynnig presennol. 

Dywedodd Swyddog Cymreig yr undeb, Nathan Holman, fod hwn yn "ganlyniad clir ac fod aelodau wedi cael dweud eu dweud ar y cynnig". 

"Rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru am gynnal y trafodaethau, ond os mai dyma eu cynnig olaf, mae'n rhy isel ar gyfer ein haelodau," meddai.

"Fwy nag erioed, mae angen datrysiad ar draws y DU o ran y cyflogau isel sydd wedi effeithio ein gwasanaethau iechyd ac ambiwlans. 

'Siomedig'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig bod y GMB wedi gwrthod ein cynnig cyflog gwell".

"Mae’r cynnig yn un cryf yn ein barn ni – mae’n cyfateb i 3% yn ychwanegol, a 1.5% ohono’n rhan o’r cyflog bob blwyddyn," meddai.

"Mae hyn ar ben y codiad cyflog cyfartalog o 4.5% ar gyfer 2022-23, sydd wedi’i ddyfarnu’n barod. 

"Dyma'r cynnig gorau y gallwn ei wneud o fewn ein setliad cyllidol presennol. Ry’n ni wedi tynnu ynghyd yr holl arian sydd ar gael o bob rhan o Lywodraeth Cymru i wneud y cynnig gwell hwn i geisio datrys yr anghydfod."

Llun: PA

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.