Newyddion S4C

Edrych eto ar bont newydd dros y Fenai meddai gweinidog trafnidiaeth

19/02/2023
Lee Waters. Pont Menai, llun gan Nick Cozier ar Unsplash.

Mae gweinidog trafnidiaeth Cymru wedi dweud y byddwn nhw'n edrych eto ar drydedd bont dros y Fenai yng nghyd-destun isadeiledd gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd.

Dywedodd Lee Waters bod Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cynllun i adeiladu bont arall ond bod angen edrych arno “o fewn cyd-destun ehangach”.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth na fydd trydedd bont ar gyfer cerbydau yn cael ei hadeiladu dros y Fenai.  

Daw’r penderfyniad yn dilyn adolygiad o dros 50 o ffyrdd oedd dan ystyriaeth, gyda'r llywodraeth yn cyhoeddi ddydd Mawrth y bydd bob cynllun sylweddol i adeiladu ffyrdd yn dod i ben.

Ond wrth siarad ar Politics Wales dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters eu bod nhw’n bwriadu edrych eto ar bont dros y Fenai.

“Dydan ni ddim yn gallu gosod o’r neilltu beth mae’r Adolygiad Ffyrdd wedi ei ddweud am y Fenai, ond mae angen ei ystyried o fewn cyd-destun ehangach,” meddai.

‘Penderfyniad’

Ychwanegodd Lee Waters fod angen bod yn “bragmataidd” wrth ystyried isadeiledd gogledd Cymru.

“Dydyn ni ddim am fod yn ddogmataidd am hyn,” meddai.

“Mae Comisiwn Burns yn edrych ar y cyfan o goridor trafnidiaeth gogledd Cymru.

“Mae’r Adolygiad Ffyrdd wedi edrych ar y Fenai fel cynllun ar ei ben ei hun.

“Felly rydw i wedi dweud wrth yr Arglwydd Burns i edrych ar hyn o fewn cyd-destun gogledd Cymru yn ei gyfanrwydd a gwneud yn siwr mai dyma’r penderfyniad cywir.”

Wrth ymateb ar Politics Wales dywedodd Aelod Senedd Cymru yr ynys, Rhun ap Iorwerth fod angen trydedd bont.

"Rydan ni wedi bod heb bont y Borth am rai misoedd gan brofi yr hyn ydw i ac eraill wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd," meddai.

"Mae'n groesfan hynod o wan sydd angen ei chryfhau yn yr hir-dymor."

Llun: Lee Waters. Pont Menai, llun gan Nick Cozier ar Unsplash.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.