Llafur yn gwrthod cadarnhau cynnig Cymru i nyrsys sy’n streicio yn Lloegr

Mae’r ysgrifennydd gwladol cysgodol Yvette Cooper wedi gwrthod cadarnhau a fyddai’r blaid Lafur yn San Steffan yn cynnig yr un cytundeb i nyrsys sy’n streicio yn Lloegr â’r blaid yng Nghymru.
Ar raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky fore dydd Sul, gofynnwyd i Ms Cooper a fyddai’r blaid yn San Steffan yn cynnig yr un cytundeb i nyrsys sy’n streicio yn Lloegr a roddwyd gan lywodraeth Lafur Cymru a’r blaid yn yr Alban.
Dywedodd Ms Cooper: “Fe fyddwn yn eistedd o amgylch y bwrdd a thrafod telerau.”
Ychwanegodd Ms Cooper: “Wrth gwrs, nid ydych yn trafod yn gyhoeddus nac ar deledu.
"Rwy’n credu eich bod yn gofyn i mi i drafod trafodaethau o amgylch y bwrdd ac rwy’n credu fod pawb wedi ei wneud yn glir mai nid dyna’r ffordd rydych yn cynnal unrhyw drafodaethau – nid dyna’r ffordd mae undebau llafur yn trafod chwaith. Ond yr holl bwynt yw bod o amgylch y bwrdd a bod yn synhwyrol iawn.”