Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi i gi defaid gael ei saethu yn ei wyneb
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi ei gi defaid golli llygad ar ôl cael ei saethu yn ei wyneb.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y coli wedi ei saethu yn ardal ei fferm dros nos ar 16-17 Chwefror.
Digwyddodd hyn ar gyrion Gwenddwr, Llanfair-ym-Muallt.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ei fod yn "achos oedd wedi aflonyddu yn fawr arnyn nhw".
“Dioddefodd y ci anafiadau difrifol ac mae wedi collu un llygad,” meddai llefarydd.
Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth ffonio 101.
Llun: Heddlu Dyfed Powys.