Torf gyntaf mewn stadiwm chwaraeon Cymru ers 12 mis
Bydd digwyddiad chwaraeon cyntaf Cymru ers dros flwyddyn gyda thorf yn bresennol yn cael ei chynnal nos Fawrth.
Bydd Casnewydd yn wynebu Forest Green Rovers yn Rodney Parade yng nghymal cyntaf gemau ail gyfle Cynghrair Dau.
Bydd yr Alltudion yn gobeithio sicrhau goliau allweddol nos Fawrth er mwyn cadw eu gobeithion o ddyrchafiad yn fyw.
Mae'r gêm rhwng Casnewydd a Forest Green yn un o ddigwyddiadau peilot Llywodraeth Cymru a dyma'r digwyddiad chwaraeon cyntaf i gael torf yn bresennol ers dechrau'r pandemig.
Mae Casnewydd wedi cyhoeddi cod ymddygiad newydd sydd wedi ei greu ar gyfer cefnogwyr yn sgil y pandemig.
Ymhlith y mesurau diogelwch newydd mae gorfodaeth i wisgo mygydau ar bawb dros 12 oed a'r angen i gyflwyno dull adnabod swyddogol.
Bydd y gic gyntaf am 20:15 nos Fawrth.