Cyn-arlywydd yr UDA Jimmy Carter yn derbyn gofal hosbis

Mae cyn-arlywydd yr UDA Jimmy Carter yn derbyn gofal hosbis yn ei gartref yn nhalaith Georgia ar ôl penderfynu peidio a pharhau â'i ofal meddygol.
Mewn datganiad, dywedodd Sefydliad Carter ei fod wedi penderfynu “treulio'r amser sydd ar ôl gartref gyda’i deulu”.
Mae Mr Carter, 98 oed, wedi bod yn dioddef iechyd gwael yn ddiweddar gan gynnwys canser yn ei afu a’i ymennydd.
Roedd yn arlywydd am un tymor rhwng 1977 a 81 cyn i'r Democrat gael ei guro gan Ronald Reagan.
Yn 2021 roedd Mr Carter a’i wraig Rosalynn wedi dathlu 75 mlynedd o briodas ac mae ganddyn nhw bedwar o blant.
Roedd yn bysgotwr brwd ac wedi pysgota yng Nghymru ar ymweliad yn 1986. Fe wnaeth ymweld â Thregaron a chapel Soar-y-mynydd. Mae hefyd wedi siarad yng Ngŵyl y Gelli.