Newyddion S4C

Syr Jim Ratcliffe

Syr Jim Ratcliffe yn cadarnhau cynnig i brynu Manchester United

NS4C 18/02/2023

Mae’r biliwnydd o Brydain Syr Jim Ratcliffe a’i gwmni Ineos wedi cadarnhau eu bod wedi gwneud cynnig swyddogol i brynu clwb Manchester United.

Roedd wedi cyhoeddi ei fwriad i brynu'r clwb fis diwethaf. 

Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd Ineos: “Byddwn yn gweld ein rôl fel ceidwaid hir dymor Manchester United ar ran y cefnogwyr a’r gymuned ehangach.”

Mae hyn yn dilyn cynnig ddydd Gwener i brynu’r clwb gan gonsortiwm sydd wedi'i arwain gan gadeirydd un o fanciau mwyaf Qatar.

Fe wnaeth Sheikh Jassim bin Hamad Al Thani, sydd yn gadeirydd QIB, gadarnhau fod ei sefydliad wedi gwneud cynnig i brynu 100% o'r clwb. 

Fe ddaeth hyn ar drothwy'r 'terfyn amser meddal' o 22:00 nos Wener ar gyfer cynigion i berchnogi'r clwb.

Mae hyn i gyd yn dilyn cyhoeddiad gan berchnogion presennol y clwb, teulu'r Glazers, eu bod yn agored i werthu'r clwb wedi 18 mlynedd wrth y llyw. 

Llun: Syr Jim Ratcliffe gan Ineos.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.