Newyddion S4C

Tŷ yn cynnwys pentref Eidalaidd bach ar werth ger Corris

18/02/2023
Pentref Eidalaidd bach Corris

Mae tŷ wedi mynd ar werth ger Corris sy’n cynnwys pentref Eidalaidd bach.

Ar yr olwg gyntaf mae’r tŷ tair ystafell wely yn un digon cyffredin yr olwg ond mae’n cynnwys “pentref Eidalaidd miniatur wrth ymyl y bwthyn”.

Mae’r adeiladau sy’n rhan o’r casgliad yn cynnwys San Pietro in Montorio, Rhufain, a Ponte di Rialto sydd ar y gamlas fawr yn Fenis.

Mae’r Cattedrale di Santa Maria del Fiore, eglwys gadeiriol Florence, hefyd wedi ei gynnwys ymysg y casgliad rhyfeddol o dros 30 o adeiladau.

Cafodd y pentref ei greu gan y diweddar Mark Bourne a’i wraig Muriel a fu’n byw yno am dros 25 mlynedd. Mae’r tŷ yn dyddio o’r 19eg ganrif.

Roedd Mark Bourne yn ymweld â’r Eidal yn aml ac wedi ceisio ail-greu rywfaint o’r nodweddion unigryw yn ei ardd.

Cyn marw yn 2009 dechreuodd ymddiriedolaeth er mwyn adfer yr adeiladau.

'Unigryw'

Dywedodd yr asiantaeth dai Morris, Marshall and Poole sy’n gwerthu eiddo ar draws canolbarth Cymru bod gan y tŷ olygfa dda o’r dyffryn a’r Afon Deri sy’n llifo i lawr o Fynydd Tŷ-Glas.

“Mae'r pentref Eidalaidd sydd wrth ochor y bwthyn yn unigryw iawn,” medden nhw.

“Mae'n arddangos nifer o adeiladau hanesyddol a cherfluniau o’r Eidal gan gynnwys Pont de Verde, Sant Marc a nifer o eglwysi.

“Mae hwn yn dirnod adnabyddus ac mae yna nifer o dudalennau gwe sy’n ei drafod.”

Llun gan Morris, Marshall and Poole.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.