Rhydian Roberts yn cyhoeddi y bydd yn ymddeol wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed
Mae Rhydian Roberts wedi dweud ei fod yn bwriadu ymddeol o ganu wrth iddo droi’n 40 oed ddydd Mawrth.
Wrth siarad ar y podcast In the Spotlight dywedodd ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i recordio cerddoriaeth wedi 15 mlynedd ers yr X-Factor.
“Rydw i wedi mwynhau fy ngyrfa,” meddai. “Mae’n 15 mlynedd ers yr X Factor ac rydw i wedi cyhoeddi wyth albwm yn barod.”
Dywedodd ei fod yn bwriadu gorffen gyda dwy albwm eleni, Rhydian: Classical Album, Hymns, Songs & Arias ac yna albwm ‘goreuon’.
“Dyna ni wedyn – rydw i’n mynd i roi’r ffidil yn y to,” meddai.
'Carreg sarn'
Dywedododd Rhydian Roberts, sydd o Bontsenni yn wreiddiol, ei fod wedi bod yn canu llai a llai yn ddiweddar a chanolbwyntio ar reoli cantorion eraill, gan gynnwys Syr Bryn Terfel.
Mae’n gweithio i asiantaeth dalent Neil O’Brien Entertainment.
“Ro’n i wedi cyflawni llawer o’r hyn roeddwn i eisiau ei gyflawni wrth ganu,” meddai.
“Mae gweithio fel hyrwyddwr a hyrwyddo fy arwr Syr Bryn Terfel yn anhygoel.
“Dim ond carreg sarn oedd yr X Factor i bethau eraill. Fy mhrif swydd mewn gwirionedd yw buddsoddi mewn eiddo a dyna fy mhrif ffynhonnell incwm.”
Ychwanegodd: “Dydw i ddim yn hoffi perfformio o flaen cynulleidfa bellach. Rwy'n ei chael hi'n anodd nawr.
“Wrth fynd yn hŷn mae’n mynd yn anoddach.”
Llun: Rhydian Roberts ar glawr ei albwm.