Cyn bêl-droediwr Newcastle United wedi marw yn y daeargryn yn Nhwrci

Mae corff cyn bêl-droediwr Newcastle United, Christian Atsu o Ghana wedi ei ganfod o dan rwbel yr adeilad lle'r oedd yn byw yn Nhwrci yn ôl ei asiant.
Roedd yn chwarae i Hatayspor yn Antakya ac roedd i fod i hedfan allan o’r wlad ar ddiwrnod y daeargryn sydd wedi lladd dros 45,000 o bobl.
Dywedodd ei asiant Nana Sechere: “Gyda chalon drom rwy’n cyhoeddi fod corff Christian Atsu wedi ei ddarganfod y bore ma ac mae fy nghydymdeimladau dwys yn mynd i’w deulu."
Roedd Atsu wedi treulio cyfnodau gyda chlybiau gan gynnwys Chelsea, Bournemouth, Everton a Newcastle.