Consortiwm o Qatar yn gwneud cynnig i brynu Manchester United

Mae consortiwm sydd wedi'i arwain gan gadeirydd un o fanciau mwyaf Qatar wedi cadarnhau ei fod yn gwneud cynnig swyddogol i brynu clwb Manchester United.
Fe wnaeth Sheikh Jassim bin Hamad Al Thani, sydd yn gadeirydd QIB, gadarnhau fod ei sefydliad wedi gwneud cynnig i berchen ar 100% o'r clwb.
Daw hyn ar drothwy'r 'terfyn amser meddal' o 22:00 nos Wener ar gyfer cynigion i brynu'r clwb.
Dyma'r ail gynnig swyddogol i gael ei gadarnhau ar gyfer y clwb, wedi i Syr Jim Ratcliffe gyhoeddi ei fwriad i brynu'r clwb fis diwethaf.
Mae'n dilyn cyhoeddiad gan berchnogion presennol y clwb, teulu'r Glazers, eu bod yn agored i werthu'r clwb wedi 18 mlynedd wrth y llyw.
Mewn datganiad, dywedodd y consortiwm o Qatar ei fod yn cynllunio i "ddychwelyd y clwb i'w hen ogoniant."
"Ni fydd unrhyw ddyled yn gysylltiedig gyda'r cynnig trwy sefydliad Nine Two Foundation, Sheikh Jassim.
"Fe fydd y cynnig yn buddsoddi yn y timau pêl-droed, y ganolfan ymarfer, y stadiwm a'r isadeiledd ehangach a phrofiad cefnogwyr a'r cymunedau y mae'r clwb yn ei gefnogi.
"Gweledigaeth y cynnig yw sicrhau bod Manchester United yn enwog am bêl-droed o'r safon uchaf, ac yn cael ei ystyried fel y clwb gorau yn y byd."