Arolwg barn yn awgrymu gwrthwynebiad i droi pob ysgol yn gyfrwng Cymraeg

Mae canlyniadau pôl piniwn newydd yn awgrymu bod mwy na hanner y boblogaeth yng Nghymru yn erbyn troi pob ysgol yn gyfrwng Cymraeg.
Fe wnaeth 56% o’r rheiny wnaeth ymateb i’r arolwg barn ar gyfer YouGov ac ITV Cymru ddweud eu bod nhw’n anghytuno gyda’r syniad.
Daw hyn ar ôl i Gymdeithas yr Iaith alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad ym mis Rhagfyr.
Yn ôl canlyniadau'r Cyfrifiad, roedd yna ostyngiad o 23,700 yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf.
Pob ysgol yn gyfrwng Gymraeg:
- Cefnogi’n gryf: 15%
- Ychydig o gefnogaeth: 20%
- Ychydig o wrthwynebu: 21%
- Gwrthwynebu’n gryf: 36%
- Ddim yn siwr: 9%
Un o alwadau Cymdeithas yr Iaith oedd creu deddf addysg Gymraeg fyddai'n gosod pob ysgol ar hyd llwybr i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.
Er i'r mwyafrif o ymatebwyr y pôl wrthwynebu'r syniad, roedd 58% yn gefnogol o gael mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Cynnydd yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd yng Nghymru (holl wersi trwy gyfrwng y Gymraeg) yn gyffredinol
- Cefnogi’n gryf: 26%
- Cefnogi i raddau: 32%
- Gwrthwynebu i raddau: 15%
- Gwrthwynebu’n gryf: 15%
- Ddim yn siŵr: 13%
Fe wnaeth y pôl piniwn hefyd awgrymu bod 30% o’r cyhoedd ddim yn meddwl bod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i hybu’r iaith Gymraeg, tra bod 20% yn credu ei bod yn gwneud gormod.
Mewn cyfweliad â’r rhaglen materion cyfoes, Y Byd ar Bedwar, dywedodd gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles ei fod yn siomedig gyda chanlyniadau’r Cyfrifiad ond yn derbyn bod yna waith i’w wneud.
“Ry’n ni’n byw mewn cymuned, mewn cymdeithas, lle mae diwylliant sy’n dominyddu, sef diwylliant yr iaith Saesneg sy’n dros y ffin a hefyd dros y môr.
"Mae iaith leiafrifol yn brwydro i gadw ei thir. Felly, mae gennym ni waith i’w wneud yn gymdeithasol, nid jyst gwaith y llywodraeth yw hyn, i wneud yn siŵr bod mwy o hyder ganddyn nhw i sicrhau eu bod nhw’n defnyddio’r iaith.”