Newyddion S4C

'Annhebygol' y bydd targed adeiladu tai cymdeithasol yn cael ei wireddu ar amser

Y Byd ar Bedwar 20/02/2023

'Annhebygol' y bydd targed adeiladu tai cymdeithasol yn cael ei wireddu ar amser

Mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod hi’n “dod yn fwy tebygol” na fydd yn cwrdd â’r targed i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol erbyn 2026. 

Fe wnaeth y gweinidog tai Julie James roi’r bai ar argyfyngau byd-eang, fel pandemig Covid-19, wnaeth arwain at gynnydd mewn costau a gostyngiad yn nifer y tai oedd yn cael eu hadeiladu. 

Ar hyn o bryd, mae yna 90,000 o aelwydydd ar restr aros ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru. 

Fis Tachwedd 2022, roedd yna 9,000 o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru, sy’n gynnydd o dros 4,000 o bobl o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol. 

Wrth siarad ar y rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, dywedodd Bethany Doughty, 20 oed, o Gricieth, ei bod hi wedi bod ar y rhestr aros am dŷ cymdeithasol am ddwy flynedd. 

Fe wnaeth Bethany adael ei chartref yn 18 yn dilyn plentyndod anodd, ac nid yw hi wedi gallu fforddio na dod o hyd i dŷ addas a sefydlog ers hynny. Erbyn hyn, mae hi’n rhannu ei hamser rhwng cartref rhieni ei chariad, a chartef ei nain - lle mae hi’n coginio ac yn golchi dillad ei mab, Oliver. 

Gydag incwm o ychydig dros £500 y mis, mae hi’n dweud nad yw hi’n medru fforddio rhentu’n breifat. 

“Dwi angen tŷ, dwi angen hogyn bach fi i gael rhywle stable. Dani’n bownsio nôl a ‘mlaen, dani’m yn gwbod lle da ni’n mynd hanner yr amser.

“Fydd cal gartre' yn newid bywyd fi. Ga’i ffrindia Oliver drosodd. Do’n i ddim yn gallu cael parti pen-blwydd iddo fo achos mae’n ddrud i gael parti yn y neuadd neu rywbeth, a dweud os dwisho neud ‘wbath bach yn y tŷ, sgenaim tŷ i neud o.”

Yn ôl Bethany, mae prisiau rhent ar y farchnad breifat yn ardal Cricieth yn “hurt”. 

Fe gafodd Bethany gynnig tŷ ym Mlaenau Ffestiniog gan y cyngor yn ystod hydref 2022, hanner awr i ffwrdd o’i gwaith ac ysgol Oliver yng Nghricieth. 

“Os swn i’n symud i Flaenau Ffestiniog, ‘swn i 45 munud i ffwrdd o’m gwaith i ac ysgol Oliver. ‘Swn i ffwrdd o’r teulu ac mae talu am childcare yn ddrud.”

Mae Oliver, sy’n dair blwydd oed, ymhlith miloedd o blant yng Nghymru sydd yn ddigartref ar hyn o bryd neu sydd o dan risg o fod yn ddigartref.

“Mae Oliver yn deall beth sy’n digwydd rŵan,” meddai. “Mae o’n dod adra o’r ysgol ac yn dweud: ‘Wnes i adeiladu tŷ iti heddiw mam’.”

Yng Ngwynedd lle mae Bethany yn byw, mae yna dros 3,000 o aelwydydd yn aros am dŷ cymdeithasol, ac mae’r cyngor yn gwario tua £6 miliwn y flwyddyn ar roi pobl mewn llety dros dro. 

Image
Tai cymdeithasol
Llun: ITV Cymru Wales 

Mae Bethany yn credu y dylai’r cyngor adeiladu mwy o dai cymdeithasol, yn hytrach na thalu i gadw pobl mewn llety dros dro, megis gwelyau a brecwast a gwestai. 

Dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod wedi gweld cynnydd mewn digartrefedd, a bod yna fwy o alw am dai cymdeithasol na beth sydd ar gael i’w gynnig, sy’n golygu bod pobl yn treulio mwy o amser yn aros na fyddai’r cyngor yn dymuno. Mae’n gweithio i gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol. 

Ar draws Cymru, mae yna 90,000 o aelwydydd yn aros am dŷ cymdeithasol. Mae’r ffigwr hwnnw wedi cynyddu gan bron i 40% ers 2018.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel erbyn 2026. 

Image
Julie James
Llun: ITV Cymru Wales

 

Wrth siarad ar y rhaglen, fe wnaeth y gweinidog tai, Julie James gyfaddef nad oedd yna ddigon o dai er mwyn i bobl symud iddyn nhw ar y foment. 

Fe wnaeth hi ychwanegu bod sawl argyfwng byd-eang wedi effeithio ar eu gallu i gyrraedd y targed o 20,000 o dai cymdeithasol newydd, megis y pandemig Covid-19. 

“Ry’n ni wedi gweld gostyngiad eleni,” meddai. 

“Dyma’r drydedd flwyddyn uchaf sydd wedi cael ei chofnodi, er bod hi’n siomedig nad yw hi mor uchel â’r flwyddyn ddiwethaf.

"Ond, beth ry’n ni’n ei weld yw gostyniad o ganlyniad i Covid, oherwydd ry’n ni’n gwybod bod cyfradd dechrau adeiladu wedi gostwng yn sylweddol ar ddechrau Covid, ac mae cyfradd yr adeiladau sydd wedi cael eu cwblhau yn adlewyrchu hynny.”

Pan ofynnwyd a ddylai’r llywodraeth fod yn fwy realistig gyda’i thargedau, dywedodd fod yn rhaid i’r llywodraeth “barhau i fod yn uchelgeisiol.”

Fodd bynnag, fe wnaeth y gweinidog gyfaddef yn hwyrach ei bod hi’n “dod yn fwy tebygol” na fydd y llywodraeth yn cwrdd â’r targed. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.