Pum cyn heddwas yn yr UDA yn pledio'n ddieuog i lofruddiaeth Tyre Nichols

Mae pum cyn-aelod o Heddlu Memphis yn yr UDA wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth Tyre Nichols, wrth ymddangos yn y llys am y tro cyntaf.
Bu farw Mr Nichols, 29, ar ôl cael ei arestio ym Memphis ar 7 Ionawr.
Cafodd fideo o'i arést ei rhannu gan yr heddlu, gan ddangos pum heddwas yn ei bwnio, ei gicio a'i daro gyda baton.
Yn sgil y digwyddiad, cafodd Tadarrius Bean, Demetrius Haley, Desmond Mills Jr, Emmitt Martin III a Justin Smith eu diswyddo o'r llu a'u cyhuddo o lofruddiaeth.
Ond wrth ymddangos yn y llys am y tro cyntaf ddydd Gwener, fe wnaeth y pum cyn-heddwas wadu cyhuddiadau o lofruddiaeth yn yr ail radd.
Fe wnaeth y pum dyn hefyd bledio'n ddieuog i gyhuddiadau o herwgipio, ymosodiad, camymddygiad swyddogol a gormes swyddogol.
Fe wnaeth marwolaeth Mr Nichols sbarduno protestiadau ar draws yr UDA, gan gynnwys ym Memphis, yn erbyn ymddygiad yr heddlu.
Llun: Swyddfa Heddlu Shelby County