Newyddion S4C

Ystyried gwahardd prydau bargen yng Nghymru

Ystyried gwahardd prydau bargen yng Nghymru

NS4C 17/02/2023

Fe all prydau bargen ('meal deals') a bargeinion bwyd eraill gael eu gwahardd yng Nghymru fel rhan o ymdrechion y llywodraeth i fynd i'r afael â gordewdra. 

Mae prydau bargen yn opsiwn cyfarwydd ar gyfer cinio i nifer o bobl, gan gynnig diod, brechdan a bar o siocled neu baced o greision am tua phedair punt. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried deddfwriaeth newydd i gael gwared ar fargeinion bwyd er mwyn hybu arferion bwyta iachach. 

Ond mae Consortiwm Manwerthu Cymru yn rhybuddio y gall deddfwriaeth newydd dyfyngu ar ddewisiadau cwsmeriaid a chynyddu prisiau. 

'Gwella iechyd y wlad'

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad ar strategaeth i wneud "amgylchedd bwyta Cymru yn iachach." 

Fel rhan o'r ymgynghoriad, mae'r llywodraeth yn ystyried gwahardd bargeinion bwyd fel prynu dwy eitem am bris un, gostyngiadau pris dros dro a phrydau bargen, ond dim ond mewn cyfuniadau sydd yn cynnwys lefelau uchel o siwgr a halen. 

Nid oes unrhyw benderfyniad penodol wedi'i wneud ers cau'r ymgynghoriad, ond dywedodd y llywodraeth ei fod yn ystyried y camau nesaf. 

"Rydym wedi bod yn trafod y rhain gyda chynrychiolwyr y diwydiant ac wedi ymgynghori'n eang. Rydym yn ystyried y camau nesaf ar hyrwyddiadau prisiau.

"Bydd yr argyfwng costau byw yn cael ei ystyried yn ofalus wrth wneud penderfyniadau, ochr yn ochr â'r effaith sylweddol y mae gordewdra yn ei gael ar iechyd pobl.

"Bydd unrhyw fesurau penodol yn cael eu cynllunio i hyrwyddo bwydydd iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau cynamserol."

Ond mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi dweud bod yna rhai aelodau sydd yn gwrthwynebu'r syniad o wahardd prydau bargen. 

"Rydym yn deall pwysigrwydd o'r llywodraeth yn ceisio mynd i'r afael â gordewdra a chefnogi iechyd y cyhoedd," meddai Sara Jones, pennaeth y consortiwm, wrth siarad gyda BBC Radio Wales. 

"Pobl fel fi, mam i ddau, yn edrych am opsiynau cyflym ar gyfer cinio. Dydw i ddim yn mynd i orfwyta oherwydd yr opsiynau yma a thrwy wahardd y rheiny mae'n creu cyfyngiadau o ran argaeledd a fforddiadwyedd.

"Gyda chwyddiant ar ei uchaf mewn 18 mlynedd, mae'n gam yn ôl ac yn  ddiofal i gynyddu prisiau fel hyn heb unrhyw dystiolaeth bydd iechyd y cyhoedd yn gwella."

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.