
Gwerthu blanced arbennig o gyfres C’mon Midffild i godi arian at elusen
Gwerthu blanced arbennig o gyfres C’mon Midffild i godi arian at elusen
Fe all ffans y rhaglen boblogaidd C’mon Midffild gael cyfle i fod yn berchen ar flanced arbennig sydd wedi ei gwneud o dyweli cwrw o dafarn y Bull, Bryncoch.
Bydd elw'r gwerthiant yn mynd at elusen ymchwil canser er cof am Morus Elfryn, oedd yn gweithio fel rheolwr cynhyrchu'r gyfres eiconig.
Fe gafodd Dei Elfryn, mab Morus, y syniad o roi’r flanced mewn ocsiwn wedi iddo golli ei dad bron i flwyddyn yn ôl.
“Cyn 'Dolig llynedd oedd dad jyst di dechrau tagu yn ofnadwy. Ond nath pethau waethygu yn sydyn ac aeth o i ysbyty, oedd ganddo fo ganser.
“Oedd o yn horrible gweld o yn yr ysbyty, dyn cryf. Ond aeth o yn sydyn iawn doedd na ddim oedd neb yn gallu neud. Oedd y canser wedi mynd drwyddo fo.”

Tra’n gweithio ar C’mon Midffild roedd Morus yn dod â’r tyweli cwrw adref i’w blant. Mam Dei gafodd y gwaith o’u gwnïo yn sownd a chreu'r flanced.
I Dei mae’r flanced yn atgof o’i dad a rhai o benodau mwyaf poblogaidd y gyfres.
“Y beer towels yma oedd ar y bar yn y Bull mewn gwahanol benodau ac oedd dad yn dod a nhw adra,” meddai wrth Newyddion S4C.
“Ond os ti gwylio C’mon Midffild nei di weld yr un Glyn Ffidich, sef y jôc gora sydd yn y rhaglen dwi meddwl.
“Nath mam jyst penderfynu rhoi o at ei gilydd a neshi ddefnyddio fo fel blanced gwely am flynyddoedd ond ddim meddwl dim byd o honno fo.
Oedd o wedi dod yn normal i dad ddod adra o'r gwaith efo’r beer towels ma.”

Er bod y flanced yn bwysig i Dei, ni wnaeth o erioed ddychmygu pa mor werthfawr y byddai i bobl eraill.
Erbyn hyn mae dros £200 wedi ei gynnig am y flanced.
“Ma’n rhyfedd wan sylwi faint o sylw ma’r flanced yma yn ei gael achos pa mor boblogaidd oedd neu ydy’r rhaglen.
“Dwi methu coelio’r peth ond mae’r bids fyny i £250 a dwi methu coelio huna a dwi mor ddiolchgar a methu coelio bod rwbath fela yn gallu casglu gymaint at achos da. Ma’ rhaid bod rhywun rili isio fo.
“Dwi’m yn gwybod be fysa dad yn deud rŵan, mashwr bysa fo ddim yn disgwyl hyn chwaith.”