Newyddion S4C

Brianna Ghey.png

Marwolaeth Brianna Ghey yn 'adlewyrchu ofn cyson' pobl drawsryweddol

ITV Cymru 17/02/2023

Mae marwolaeth Brianna Ghey yn 'adlewyrchu ofn cyson' pobl drawsryweddol, yn ôl cymuned o bobl LHDTC+ yng Nghaerdydd.

Cafodd gwylnos ei chynnal nos Iau yn y brifddinas er cof am Brianna Ghey.

Cafodd y ferch 16 oed ei thrywanu’n farw ar lwybr ym mharc Culcheth Linear yn Warrington toc wedi 15:00 ddydd Sadwrn, 11 Chwefror.  

Roedd llefarydd ar gyfer Glitter Cymru, cymuned o bobl LHDTC+ yng Nghaerdydd, wedi disgrifio’r wylnos fel “fflach o obaith” i’r gymuned draws. 

Er nad yw’r heddlu wedi cadarnhau bod Brianna wedi dioddef casineb trosedd, fe wnaeth Glitter Cymru ddisgrifio ei marwolaeth fel un oedd un "adlewyrchu’r ofn cyson, gwrthodiad cymdeithasol a’r trais direswm mae pobl traws yn ei ddioddef yn ddyddiol."

Mae gwylnosau wedi’u trefnu gan aelodau o’r gymuned drawsrywiol wedi’u cynnal ledled y DU er cof am y ferch 16 oed. 

Image
Gwylnos
Llun: ITV Cymru

 

Ers hynny, mae dau blentyn 15 oed wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Brianna.

Fe ymddangosodd y ferch a’r bachgen ar alwad fideo yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Iau. 

Fe wnaeth teulu Brianna ei disgrifio fel merch, wyres a chwaer "oedd pawb yn ei charu."

Fe wnaeth ITV Cymru hefyd siarad gyda menyw draws wnaeth fynychu’r wylnos yng Nghaerdydd. Roedd hi’n dymuno aros yn ddienw er mwyn amddiffyn ei hun rhag trawsffobia. 

“Mae’n frawychus. Dwi’n ofni cerdded trwy Parc Bute yn y nos i gerdded adref yn barod, ‘dwi ddim hyd yn oed yn trio’r daith nawr,” meddai.

“Mae ofni gadael eich cartref allan o ofn casineb mor flinedig, ac mae’n gwneud i mi ddigalonni ein bod ni angen byw fel hyn fel cymuned. 

“Os oedd marwolaeth Brianna fel canlyniad i drosedd casineb neu beidio, rydyn ni wedi colli bywyd ifanc sydd bob tro yn drasiedi. Rydw i am fynychu’r wylnos i gofio Brianna a phob bywyd traws rydyn ni wedi’u colli. 

“Dwi jyst eisiau bod yn fi. Dwi jyst eisiau bod yn saff”, meddai. 

Image
Gwylnos
Llun: ITV Cymru

 

Datgelodd Mermaids, elusen sy’n rhoi cymorth i bobl traws, fod galwadau i'w llinell gymorth wedi cynyddu 31% ddydd Llun a dydd Mawrth, o gymharu â’r wythnos gynt. 

Yn ogystal â hyn, roedd Ystadegau Cenedlaethol Trosedd Casineb ar gyfer Cymru a Lloegr 2021-22 yn dangos cynnydd o 56% mewn adroddiadau o droseddau casineb tuag at bobl drawsryweddol yn y DU o gymharu â 2020-21. 

Roedd Brianna yn ferch drawsryweddol, gyda’r heddlu yn wreiddiol yn datgelu nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod ei llofruddiaeth yn drosedd casineb.

Ers hynny mae ditectifs wedi dweud fod pob trywydd yn yr ymholiad yn cael eu harchwilio, gan gynnwys casineb trosedd. 

Mae archwiliad post-mortem y Swyddfa Gartref yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i benderfynu achos marwolaeth Brianna.

Dywedodd yr erlynydd Leanne Gallagher wrth y llys fod y digwyddiad yn "andros o greulon."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.