Sŵ Caer yn dweud fod llygredd Dŵr Cymru 'yn bygwth rhywogaeth prin'

Mae Sŵ Caer wedi dweud bod llygredd sydd yn cael ei ollwng i Afon Dyfrdwy gan Dŵr Cymru yn cyfrannu at ddiflaniad rhywogaeth pryfaid prin.
Ysgrifennodd y sŵ at Dŵr Cymru y llynedd yn galw arnyn nhw i roi'r gorau i ollwng carthion i'r afon.
Mae cyfarwyddwr gwyddoniaeth Sŵ Caer, Simon Dowell, bellach wedi dweud fod ansawdd gwael y dŵr yn bygwth cynefin y pryfed prin ac yn rhoi prosiectau cadwraeth yn y fantol.
Yn 2021, roedd carthion wedi llifo i Afon Dyfrdwy am 53,057 awr.
"Mae gennym ni gyfleusterau yma er mwyn ceisio bridio'r pryfed mewn caethiwed, cynyddu'r boblogaeth ac yna eu hail-gyflwyno i'r gwyllt," meddai Simon Dowell wrth bapur newydd The Times.
"Ond allwn ni ddim eu rhyddhau i ddŵr budr. Mae'n wastraff amser ac yn anfoesegol. Felly mae'n hollbwysig fod gennym ni ddŵr glân."
Angen dŵr glân
Dengys data gan y sŵ bod 45% o'r ffosffad sydd yn y dŵr yn dod o garthion newydd sydd wedi cael eu gollwng i'r afon.
Mae'r ffosffad yn hybu twf algae, sydd yn gallu cael effaith ar rywogaethau gwahanol yn y dŵr.
Rhybuddiodd Mr Dowell bod angen i'r dŵr fod yn lân er mwyn gallu sicrhau nad yw rhywogaethau eraill yn cael eu heffeithio, yn ogystal â'r rhywogaeth brin o bryfed.
"Trwy ollwng carthion i dŵr ffres, mae hi bach fel ffrwythloni eich pridd, da chi'n ychwanegu llawer o faetholion," meddai.
"Yn y dŵr mae hynny yn annog gwahanol fathau o organebau, gan gynnwys mathau o facteria, sydd wedyn yn defnyddio'r ocsigen yn y dŵr, ac mae hyn yn golygu bod llai o ocsigen i'r rhywogaethau sydd yn barod yno.
"O ganlyniad, mae'r dŵr hefyd yn troi'n gymylog, tra bod nifer o rywogaethau angen dŵr glân."
'Nifer o ffactorau'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: “Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Afon Dyfrdwy i’r ardal ac rydym eisoes wedi cwrdd a Sŵ Gaer fis Awst diwethaf i egluro sut yr ydym yn chwarae ein rhan i helpu i warchod ansawdd y dŵr yn yr afon.
“Mae Gorlifau Storm Cyfunol (CSOs) yn chwarae rhan hanfodol wrth atal cartrefi rhag llifogydd yn dilyn glaw a stormydd gan fod y rhan fwyaf o’n rhwydwaith yn system gyfunol sy’n casglu dŵr wyneb yn ogystal â dŵr gwastraff.
"Mae ein CSOs - sy'n rhyddhau dŵr wyneb yn bennaf sy'n mynd i mewn i'n carthffosydd oherwydd glaw - yn cael eu rheoleiddio gan ein rheolyddion. Mae Caer hefyd yn cynnwys llawer iawn o arwynebedd anhydraidd, a gyda glawiad fwy dwys, rydym yn gweld mwy a mwy o ddŵr wyneb yn mynd i mewn i'r rhwydwaith carthffosydd."
Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Lleol i geisio rheoli’r dŵr wyneb hwnnw a’i atal rhag mynd i mewn i’r carthffosydd yn y lle cyntaf.
“Mae nifer o ffactorau eraill sy’n gallu effeithio ar ansawdd dŵr nad ydynt i gyd o fewn ein rheolaeth megis diwydiant, tanciau septig preifat a dŵr o dir amaethyddol sydd a lefel uchel o facteria sy’n cael ei olchi i gyrsiau dŵr."