Newyddion S4C

Freddie Mercury o'r band Queen

Queen sy’n rhoi gwên ar wynebau'r Cymry yn ôl ymchwil newydd

NS4C 17/02/2023

Mae ymchwil i ba ganeuon sydd fwyaf effeithiol wrth godi hwyliau pobol wedi darganfod mai'r band Queen yw ffefryn pobol Cymru.

Eu cân ‘Don’t Stop Me Now’ sydd fwyaf effeithiol wrth roi gwên ar wynebau'r Cymry, yn ôl ymchwil gan arbenigwr o Brifysgol Sheffield.

Daeth ‘Happy’ gan Pharell Williams a ‘Walking on Sunshine’ gan Katrina and the Waves yn ail a trydydd.

Roedd Dr Michael Bonshor o Brifysgol Sheffield wedi bwrw ati er mwyn ceisio darganfod beth yn union am ganeuon gwahanol oedd yn gwneud pobl yn hapus.

“Mae ein hoff ganeuon hapus yn dechrau yn syth heb lawer o gyflwyniad,” meddai Dr Michael Bonshor.

“Rydan ni hefyd yn hoffi caneuon sy’n bownsio gydag offerynnau fel trwmpedau neu gitarau trydan.”

Beach Boys

Dywedodd Dr Michael Bonshor ei fod wedi darganfod fod gan y traciau mwyaf effeithiol wrth godi hwyliau pobol dair elfen yn gyffredin:

  • Tempo o 137 curiad y funud (bpm)
  • Strwythur pennill-cytgan-pennill-cytgan rheolaidd
  • Newid cywair cyson yn ystod y gân

Dywedodd mai cân y Beach Boys ‘Good Vibrations’ oedd yn cyd-fynd orau â’r elfennau hyn.

Serch hynny wrth gynnal arolwg ffurfiol o drigolion y Deyrnas Unedig, ‘Don’t Stop Me Now’ gan Queen oedd hoff gân hapus Cymru, Gogledd Iwerddon, a gogledd a de-ddwyrain Lloegr.

Roedd Dancing Queen gan Abba hefyd yn boblogaidd ar draws yr Alban a mwyafrif gogledd Lloegr.

Roedd ‘Walking on Sunshine’ yn boblogaidd yng nghanolbarth a de-orllewin Lloegr a ‘Happy’ oedd hoff gân hapus Llundain.

Hapus

Dyma’r caneuon sy’n fwyaf tebygol o godi eich hwyliau yn ôl ymchwil Dr Michael Bonshor:

  1. Good Vibrations - The Beach Boys
  2. I Got You (I Feel Good) - James Brown
  3. House of Fun - Madness
  4. Get the Party Started - P!nk
  5. Uptown Girl - Billy Joel
  6. Sun Is Shining - Bob Marley
  7. I Get Around - The Beach Boys
  8. YMCA - Village People
  9. Waterloo - ABBA
  10. September - Earth, Wind & Fire

Llun: Freddie Mercury o'r band Queen. Llun gan Carl Lender (CC BY 2.0).

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.