Newyddion S4C

canolfan ddinesig abertawe.

Llys dros dro Abertawe i barhau ar agor am flwyddyn ychwanegol

NS4C 17/02/2023

Fe fydd llys dros dro yn Abertawe yn aros ar agor am flwyddyn ychwanegol er mwyn ceisio cau pen y mwdwl ar nifer uchel o achosion llys sydd dal heb eu clywed.

Mae Gweinidogaeth Cyfiawnder Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd rhan fwyaf o lysoedd dros dro, neu lysoedd Nightingale, yn aros ar agor er mwyn clywed achosion yn 2023. 

Cafodd y llysoedd eu sefydlu yn ystod y pandemig er mwyn lleddfu'r baich ar lysoedd eraill.

Abertawe yw'r lleoliad ar gyfer yr unig lys o'r fath yng Nghymru, gan glywed achosion yng Nghanolfan Ddinesig y ddinas. 

Yn ôl Llywodraeth y DU, fe fydd 11 o 12 o'r llysoedd yn parhau ar agor er mwyn lleihau'r nifer o achosion wrth gefn a lleihau'r amser mae'n "dioddefwyr yn aros ar gyfer cyfiawnder."

"Rydym yn ymrwymedig i ddarparu cyfiawnder cyflym i ddioddefwyr, ac mae llysoedd dros dro yn chwarae rôl allweddol wrth i'n system cyfiawnder ar ôl y pandemig," meddai'r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Dominic Raab. 

"Mae'r achosion wrth gefn yn llysoedd y goron yn dechrau gostwng, ac fe fydd parhau i ddefnyddio'r llysoedd yma yn helpu i leihau'r baich ymhellach." 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.