Newyddion S4C

Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru 'gam enfawr yn nes'

17/02/2023
milgwn

Mae Cymru gam yn nes at wahardd rasio milgwn gan gynrychioli "moment enfawr" ar gyfer lles cŵn, yn ôl yr RSPCA. 

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, y bydd dadl yn cael ei chynnal ynglŷn â gwahardd y gamp fis nesaf.

Yn dilyn y ddadl, fe fydd y Llywodraeth yn ystyried y "camau nesaf" gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater. 

Yn ôl yr RSPCA, Cymru yw un o 10 gwlad yn unig ar draws y byd sydd yn parhau i ganiatáu rasio milgwn masnachol yn 2023. 

Dim ond un trac sydd yng Nghymru sef Stadiwm y Dyffryn yn Ystrad Mynach. 

Yn 2021, cafodd deiseb yn galw am wahardd rasio milgwn yng Nghymru ei arwyddo gan dros 35,000 o bobl. 

Yn sgil hyn, fe wnaeth Pwyllgor Deisebau'r Senedd lunio adroddiad a wnaeth argymell y dylai'r rasys ddod i ben. 

'Tystiolaeth'

Wrth ateb cwestiynau ynglŷn â'r adroddiad, dywedodd Lesley Griffiths yn y Senedd ei bod yn derbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad ac fe fydd unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth yn dod yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus. 

Yn ôl yr RSPCA, mae hyn yn cynrychioli "moment enfawr" i'r ymgyrch i ddiogelu lles cŵn yng Nghymru.

"Heb unrhyw filfeddyg ar y trac, a dim anghenion i gyhoeddi ystadegau ar anafiadau neu farwolaethau, mae'n anodd gwybod gwir raddfa y problemau lles sydd wedi'u creu gan rasio milgwn yng Nghymru," meddai Dr Samantha Gaines, pennaeth adran anifeiliaid anwes yr RSPCA. 

"Er ei fod yn gamp sydd wedi bod yn rhan fawr o ddiwylliant Prydain, mae'r diddordeb mewn rasio milgwn wedi gostwng. 

"Mae hyn yn adlewyrchiad cadarnhaol o gymdeithas fodern a chydwybodol.

"Rydym yn falch i weithio'n agos gyda sawl elusen cŵn i alw i wahardd y gamp - ac mae'r cyhoeddiad yma yn nodi cam enfawr yn nes at ein nod."

Er hyn, mae'r Bwrdd Milgwn Prydain Fawr (GBGB) wedi honni bod rasio milgwn yn gamp hollol ddilys sydd yn blaenoriaethu lles yr anifeiliaid.

Dywedodd Mark Bird, prif weithredwr y bwrdd, ei fod yn gwerthfawrogi'r cyfle i gydweithio gydag Aelodau'r Senedd a Llywodraeth Cymru ar y mater. 

"Dylai unrhyw benderfyniad fod yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth, ac rydym yn croesawu'r cyfle i ymgyrchu dros wella lles milgwn trwy gyflwyno rheolau newydd," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.