Newyddion S4C

Buddsoddiad £3m i ailwampio ysgol ym Mangor gam yn nes

Ysgol Hirael ym Mangor

Mae ysgol gynradd ym Mangor gam yn nes at sicrhau buddsoddiad o £3 miliwn i ailwampio'r adeilad sydd "wedi dyddio a dirywio".

Cafodd cais i ariannu gwaith i ailwampio Ysgol Hirael ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Gwynedd ar 15 Chwefror. Bydd y prosiect yn cael ei ariannu fel rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Bydd y cyngor rwan yn creu achos busnes ac yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru i ariannu 65 y cant o gost y prosiect, sef £1,950,000, gyda’r cyngor yn cyfrannu’r £1,050,000 sy’n weddill. Os yw’r cais yn un llwyddiannus, y gobaith yw y gallai’r gwaith gychwyn yn y flwyddyn academaidd newydd.

Mae gan Ysgol Hirael 200 o ddisgyblion sydd rhwng tair ac 11 oed.

‘Cyfleoedd a phrofiadau newydd’

Meddai Cynghorydd Beca Brown, Aelod Addysg o Gabinet Cyngor Gwynedd: “Nid yn unig fydd y buddsoddiad yma yn gwneud yr ysgol yn le mwy dymunol i’r disgyblion, yr holl staff a’r gymuned leol, ond mi fyddai hefyd yn ein galluogi i leihau’r gwariant sydd ei angen yn bresennol i gynnal yr adeilad.

“Bydd llai o egni yn cael ei ddefnyddio a lai o garbon yn cael ei chynhyrchu gyda’r buddsoddiad yma, felly mae’r ffaith y bydd yr ysgol yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd yn destun balchder i ni hefyd.”

Mae’r cynghorydd Nigel Pickavance, sy’n cynrychioli ward Dwyrain Bangor, wedi croesawu’r newyddion, gan ddweud bod yr hen adeilad “wedi dyddio ac yn dirywio”.

Ychwanegodd: “Cafodd fy nhair merch eu haddysgu yn Ysgol Hirael ac mi ydw i’n sicr bydd y buddsoddiad yma yn gwella bywydau’r disgyblion ac yn cynnig cyfleoedd newydd a phrofiadau gwell iddyn nhw, yn ystod oriau’r ysgol a thu hwnt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.