Syr Chris Hoy yn datgelu ei fod â chanser terfynol
Mae Syr Chris Hoy wedi cyhoeddi ei fod â chanser terfynol.
Mewn cyfweliad â'r Sunday Times, dywedodd yr Albanwr, sydd wedi ennill chwe medal aur yn y Gemau Olympaidd, fod doctoriaid wedi dweud fod ganddo rhwng dwy a phedair blynedd i fyw.
Cafodd y gŵr 48 oed ddiagnosis o ganser fis Chwefror eleni. Nid oedd y math o ganser wedi ei ddatgelu bryd hynny.
Ond dywedodd yn y cyfweliad ei fod wedi cael canser y prostad, sydd bellach wedi ymledu i'w esgyrn.
Cafodd tiwmorau hefyd eu canfod yn ei glun, ysgwydd, pelfis, asgwrn cefn ac asen.
Dywedodd Syr Chris Hoy wrth y Sunday Times: "Mor annaturiol a mae hyn yn teimlo, dyma natur.
"Ganwyd pob un ohonom ac rydym i gyd yn marw, a dim ond rhan o'r broses yw hyn.
"Ti'n atgoffa dy hun, tydw i'n ffodus fod 'na feddyginiaeth y gallaf gymryd er mwyn brwydro hyn am mor hir â phosib."
Llun: Wochit/Getty Images