'Prowd i helpu eraill': Her tad o Fangor i gerdded i gopa'r Wyddfa 200 o weithiau
'Prowd i helpu eraill': Her tad o Fangor i gerdded i gopa'r Wyddfa 200 o weithiau
Cerdded i gopa'r Wyddfa 200 o weithiau – dyna her tad i ddau o Fangor eleni.
Bwriad Dylan Hughes, 41 oed, yw codi arian ar gyfer elusen canser y fron er cof am ei gydweithiwr a fu farw o’r cyflwr.
"Odd 'na rhywun o'n i’n gweithio efo sydd 'di cael yr achos yma efo breast cancer a ma'i 'di colli ei bywyd rŵan efo’r achos 'ma a ma' just yn amser drist," meddai.
"Ma hi newydd gal funeral hi dim hir yn ôl... dw i 'di rhoi 'chydig o bres i’r teulu at yr achos i helpu."
Ychwanegodd: "Dw i’n rili prowd o fi’n hun i achieveio hyn a helpu rhywun arall.”
Yn wreiddiol roedd Dylan wedi bwriadu cerdded i gopa'r Wyddfa 100 o weithiau eleni.
Ond mae wedi llwyddo i gyflawni'r daith 175 o weithiau hyd yma, ac yn anelu i gyrraedd 200.
Yr hyn sy'n ei gadw i fynd drwy'r gwynt a'r glaw yw'r syniad o helpu eraill – ac mae wedi codi dros £6,000 ar gyfer Breast Cancer Now.
"Ma' 'na pobol 'da ni’n siarad efo ar y walk, ma' nhw efo breast cancer eu hunain neu 'di cal dros y breast cancer a dw i 'di rhoi hugs iddyn nhw, pobol 'di crio efo fi amdano fo," meddai.
"Os fedra i neud bit fi at helpu mor gymaint o bobol, nai neud wbath fedra i."
Mae Dylan wedi bod yn dogfennu ei daith ar dudalen Facebook, Dylan's Charity Walk of Yr Wyddfa.
Er bod ganddo dros 1,000 o ddilynwyr, roedd yn awyddus i ddenu mwy o sylw at yr achos.
Felly fe benderfynodd wisgo gwisg Spider-Man yn hytrach na'i ddillad cerdded arferol – gan fynd yn "viral" ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Ma 'na lot o bobol 'di clwad am y Welsh Spidey, a pan dw i'n deud i pobol ma' nhw’n gobsmacked," meddai.
"O'dd 'na un lady o California yn cerddad i fyny’r Wyddfa un tro... o'dd hi’n egluro i fi mai 'di clwad amdan yr Wyddfa a 'di clwad am y Spider-Man a neshi ddeud, 'Fi ydi’r Spider-Man', a nath hi just colli meddwl hi."
Yn ôl Dylan mae cwblhau’r her wedi newid ei fywyd.
"Dw i 'di colli stôn a hanner ers January, a ma' just pob peth 'di newid yn bywyd fi wan a 'na i byth edrych yn ôl," meddai.
"Dw i'n meddwl ma' cerddad y peth gora' ti’n gallu neud i mental health – ma’r pobol ti’n cyfarfod ac yn siarad efo, ma' nhw mor hapus i fod i fyny mynydd a ma’r ffor' dw i’n siarad efo pobol, ma' o mewn byd gwahanol."
Er bod yr holl gerdded yn gallu bod yn heriol, mae Dylan yn gobeithio cwblhau her arall y flwyddyn nesaf i godi arian ar gyfer achos arall.
"Ma' just yn dangos be fedar rhywun neud yn bywyd nhw," meddai.
"Os ti'n rhoi dy feddwl i mewn i wbath, fedar ddim byd gal yn ffordd chdi.”