Teyrnged teulu i ddyn 'cariadus' a fu farw mewn gwrthdrawiad yn y Bont-faen
Mae teulu dyn 35 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn y Bont-faen ym Mro Morgannwg wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Mark Orpin o Daibach ym Mhort Talbot yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A48 toc wedi 17.00 ddydd Mercher.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Corsa coch a Land Rover Defender gwyrdd.
Cafodd dyn arall ei dywys i’r ysbyty gydag anafiadau yn dilyn y gwrthdrawiad.
'Addfwyn a chariadus'
Dywedodd ei bartner Emily ei fod yn "un o'r bobol fwyaf addfwyn, chariadus a phur".
“Mae ein calonnau wedi torri ac rydym mewn trallod gan nad yw Mark gyda ni mwyach," meddai.
"Rydym yn cael ein cysuro gan y ffaith, ni waeth pa mor hir y bu yn ein bywydau, gwnaeth ein bywydau yn well.
"Ef oedd y glud oedd yn dal llawer o bobol at ei gilydd a byddwn yn ei gofio fel y dyn sinsir caredig oedd wrth ei fodd gyda rygbi yr ydyn ni i gyd yn ei garu a'i golli. Rydyn ni'n dy garu di, Mark."
Mae Heddlu'r De yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau dashcam, i gysylltu â nhw.
Gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r llu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400345160.