Yr Elyrch yn curo Barnsley yng nghymal cyntaf gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth
17/05/2021
Huw Evans Agency
Mae Abertawe wedi ennill cymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth yn erbyn Barnsley nos Lun, 17 Mai.
Daeth unig gôl y gêm ar ôl 39 munud gan André Ayew.
Cafodd y gêm ei chynnal yn Oakwell o flaen 4,000 o gefnogwyr Barnsley - y tro cyntaf i'r ddau dîm chwarae o flaen torf ers Mawrth 2020.
Bydd y tîm nawr yn dychwelyd i Stadiwm Liberty ar gyfer yr ail gymal o flaen 3,000 o gefnogwyr ddydd Sadwrn, 22 Mai.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans