Newyddion S4C

Galw am wneud mwy i sicrhau cynwysoldeb ym mhob camp chwaraeon

Galw am wneud mwy i sicrhau cynwysoldeb ym mhob camp chwaraeon

Newyddion S4C 14/02/2023

Mae yna alw am wneud mwy i sicrhau cynwysoldeb ar draws pob camp yng Nghymru.

Yn ôl Prif Weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies, mae gwersi i’w dysgu o waith da mewn mannau yng Nghymru.

“Ma’ ‘na bocedi o waith da, ond mae yn edrych fel dim ond pocedi y'n nhw felly ma’ raid i ni neud mwy,” meddai.

“Ni di neud e dros y blynydde gyda chynyddu'r nifer o fenywod sy’n cymryd rhan yn y campau, ni di neud e gydag athletwyr sydd ag anabledd, felly a isie dysgu o’r gwersi hynny i neud yr un peth gyda chydraddoldeb yn gyffredinol.

“Liciwn i weld bod pethau yn digwydd yn naturiol, ein bod ni ddim yn gorfod denu pobl at y bwrdd i drafod y peth i neud rhywbeth am y sefyllfa.”

Image
Brian Davies
Yn ôl Brian Davies mae angen gwneud mwy dros gynwysoldeb mewn chwaraeon

Mae arolwg cenedlaethol gan Chwaraeon Cymru yn dangos bod hanner oedolion Cymru yn ymarfer corff llai nag unwaith yr wythnos.

Gyda’r ffigwr yn gostwng i 34% ar gyfer y rhai sy'n ymarfer corff deirgwaith neu fwy yr wythnos. 

Yn ôl Lloyd Lewis, sydd wedi cynrychioli Cymru ar lwyfan rhyngwladol saith bob ochr y byd, mae angen i bobl ifanc fedru gweld pobl sy’n adlewyrchu’r Gymru fodern.

“Ni chefais i brofiadau gwael oherwydd fy mod i’n edrych bach yn wahanol, ond dydy pawb ddim yn gallu dweud yr un peth.

“Dylai pawb allu mwynhau chwaraeon, a mwynhau chwaraeon heb ofidio ei bod nhw’n wahanol.

“Felly dwi’n meddwl fod hi’n bwysig iawn bod chwaraeon yn adlewyrchu hyna.

Image
Lloyd Lewis
Mae Lloyd Lewis bellach yn chwarae i Glwb Rygbi Casnewydd

“Pan o’n i’n tyfu lan o’n i’n edrych lan ar Aled Brew, odd e’n edrych fel fi – ond heddiw chi’n gweld amryw o leiafrifoedd ethnig yn chwarae i Gymru, felly mae’n dangos bod pethau yn gwella.

“Ond mae’n bwysig cael amrywiaeth a chynrychiolaeth ar draws pob elfen o fywyd.”

Mewn digwyddiad sydd wedi ei drefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yr wythnos hon, bydd Lloyd Lewis yn ymuno â chyn-gapten tim pêl-droed Cymru, Laura McAllister i drafod eu profiadau am gynwysoldeb ym myd chwaraeon.

“Chwarae rygbi heb feirniadaeth.”

Clwb Rygbi Dreigiau Conwy oedd y tîm cynhwysol cyntaf yng Ngogledd Cymru, ac ers blwyddyn a hanner mae’r tîm wedi mynd o nerth i nerth ac wedi teithio i ddinasoedd fel Abertawe, Chaerdydd a Manceinion i wynebu timau cynhwysol eraill.

“Yn y sesiwn gyntaf roedd tri ac erbyn hyn mae ugain o honom ni,” eglura Matthew Brown Cadeirydd Dreigiau Conwy.

Image
Mathew Brown
Yn ôl Mathew Brown, mae Dreigiau Conwy wedi mynd o nerth i nerth

“Mae’n bwysig iawn i bobl hoyw yng Nghymru oherwydd mae’n le i chwarae rygbi heb feirniadaeth, yn safe space, ac yn gyfle i gyfarfod ffrindiau.”

I Cameron Frazer sydd yn wreiddiol o Fanceinion, roedd ymuno â’r tîm yn gyfle i ddod i adnabod pobl ar ôl symud i’r ardal.

“Doeddwn i heb chwarae rygbi ers ugain mlynedd ond mae 'di bod yn hwyl gallu dod i gwrdd pobl a mwynhau yng nghwmni eraill.

“Dwi erioed 'di bod yn berson oedd yn ymddiddori mewn chwaraeon, ond be oedd yn apelio fwyaf oedd y cynwysoldeb, y gallu i gyfarfod pobl LGBT eraill a’r ochr gymdeithasol.”

Image
Dragons Rugby
Clwb Rygbi Dreigiau Conwy oedd y tîm cynhwysol cyntaf yn y gogledd

Cyn iddo symud i fyw i Awstralia yn ddiweddar bu Connor o Sir Fôn yn chwarae i’r clwb ac mae'n ddiolchgar o gefnogaeth y gymuned rygbi.

“Fyswn i’n deud bod rygbi yn un o’r chwaraeon gorau ym Mhrydain o ran cynhwysiant achos bod yna gymaint o dimau cynhwysol ar gael.

“Wrth i chi dyfu’n hŷn, ma’ lot o bobl yn syrthio allan o chwaraeon, ac mae’n anodd iawn mynd nôl i mewn felly ma’ cael timau fel dreigiau Conwy yn annog pobl i fynd nôl i chwarae.”

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.