
Colli’r categori Cymraeg yng Ngwobrau Podledu Prydain yn ‘siom i’r iaith’
Colli’r categori Cymraeg yng Ngwobrau Podledu Prydain yn ‘siom i’r iaith’

Mae colli’r categori Cymraeg yng Ngwobrau Podledu Prydain yn siom, meddai un cynhyrchydd.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Aled Jones, cynhyrchydd YPod.Cymru bod y gwobrau wedi bod yn llwyfan iaith a thalent.
Mae Gwobrau Podlediad Prydain yn seremoni wobrwyo flynyddol gyda'r bwriad o ddathlu cynnwys rhagorol o fewn y byd podlediadau Prydeinig.
Yn flynyddol mae’r categori ‘Podlediad Gorau Yn Yr Iaith Gymraeg’ wedi bod yn rhan o’r gwobrau.
Mae categoriau eleni wedi eu cyhoeddi ac nid yw’r wobr am y ‘Podlediad Gorau Yn Yr Iaith Gymraeg’ ar y rhestr.
“Dwi wedi cysylltu gyda’r cwmni newydd sydd yn rhedeg y gwobrau eleni. A dwi wedi cael e-bost yn nôl yn dweud bod rhai newidiadau wedi eu gwneud eleni sy’n golygu bod nhw wedi gollwng y categori,” meddai Aled.
“Mae’n siom, yn bersonol fi’n teimlo bod podlediadau Cymraeg wedi elwa lot mas o gael categori a’i rhoi ar lwyfan Prydeinig. Roedd y wobr yn blatfform grêt i bodlediadau Cymraeg a'r iaith.”
Ymysg y podediadau sydd wedi cael llwyddiant yn y gwobrau mae Dewr, podlediad gan Tara Bethan a Gwrachod Heddiw gan Mari Elen.

Roedd Aled hefyd ymysg y panel oedd yn beirniadu yn y categori.
Dwi wedi bod yn rhan o’r panel beirniadu i’r categori gyda Siân Eleri o BBC Radio 1 a Sali Collins o Brifysgol Gaerdydd ac roedd lot o bobl yn ceisio am y wobr.
“Roedd hi’n wobr wych i’r iaith Gymraeg, ac roedd enillwyr yn mynd fyny ar y llwyfan ac yn diolch yn y Gymraeg. Dwi’n teimlo bod llwyfan o’r fath wedi codi safon podlediadau Cymraeg.
“Mae e yn gam yn nôl, achos bod llai o amrywiaeth mewn gwobrau Prydeinig.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Gwobrau Podledu Prydain yn gofyn am eu hymateb.