Dyddiadur o'r daeargryn: Argraffiadau Rhodri Llywelyn ar ohebu 'o ddyfnder isaf uffern'

Newyddion S4C 13/02/2023
Rhodri Llywelyn ac Iwan Griffiths

Wythnos ers y daeargrynfeydd trychinebus yn Nhwrci a Syria, Rhodri Llywelyn sy'n rhannu ei argraffiadau o ohebu gydag Iwan Griffiths o dde Twrci ar ran Newyddion S4C.

Dydd Llun, 6 Chwefror 

Deffrodd y radio bach wrth ymyl y gwely am 06:00 fel arfer ar fore Llun y 6ed o Chwefror. Erbyn i bedwaredd stori’r bwletin gael ei darllen, ro’n i ar ddihun. 

“Mae dros gant o bobl wedi marw, a channoedd yn rhagor wedi’u hanafu mewn daeargryn…”.

O fewn 24 awr, a chyda nifer y marwolaethau’n lluosogi ar gyflymder arswydus, ro’n i ac Iwan Griffiths ar ein ffordd i dde Twrci ar ran Newyddion S4C.

Mi gyrhaeddon ni ddyfnderoedd isaf uffern yn oriau mân bore Mercher.

Dros y dyddiau canlynol fe wnaethon ni gyfarfod â degau o bobl ac oriel o wynebau sy’n portreadu un o’r trychinebau naturiol gwaethaf mewn canrif.

Dydd Mercher, 8 Chwefror 

Image
Saith merch yn aros
Merched yn wylo wrth wylio'r cloddio.

Seirenau a chyrn yn canu.  Mamau’n wylo wrth i beiriannau trwm gloddio drwy weddillion eu cartrefi. 

Mae’n banig llwyr yn Kahramanmaraş, union ddeuddydd wedi’r daeargrynfeydd.

Dyma griw o wirfoddolwyr yn gorymdeithio heibio, pob un â phicell neu raw i helpu wrth i mi geisio’r dasg amhosib o gyfleu erchyllder yr olygfa ar y radio.

Ma’ hanner dwsin o dyrau tal yn bentyrrau o goncrit a dur ar lawr.  Jac codi baw yn cario corff arall oddi ar y domen.  

Yna’r chwiban i bawb dawelu - sŵn gobaith wrth i dîm achub wrando’n astud am lais.

O fewn yr awr, roedd Edjrin yn rhydd. Wedi ei hachub, ac ym mreichiau kahraman.  Mae’r gair Twrceg yn enw’r ddinas yn golygu ‘arwr’.  

Image
Edirin
Edjrin, merch ifanc a gafodd ei hachub o’r rwbel.

Syllodd Edjrin i fyw ein camera wrth gael ei chario o dduwch y dyddiau diwethaf.  Yna daeth ei chwaer a’i mam mas yn fyw hefyd.

Tair gwyrth, ac ennyd o lawenydd, cyn i’r chwilio ail ddechrau.

Dydd Iau, 9 Chwefror 

Image
Mab Medina
Mab Medina a gollodd pump ffrind o ganlyniad i’r daeargryn.

Ma’ teulu mawr Medina wedi creu lloches ym maes parcio’r theatr. Drws nesa’ ma’ minaret y mosg yn deilchion ar lawr.

Tra bod y famgu yn golchi sanau mewn sinc, roedd mab Medina am i ni wybod iddo golli pump ffrind yn y gyflafan.

Gyda dicter yn ei lais ifanc mae’n dweud fod yr heddlu wedi anwybyddu ei apêl am help i ddod o hyd iddyn nhw.

Dros y ffens mae cawl dyfrllyd a blancedi ail-law yn cael eu dosbarthu gan elusennau.  Ond bu’r cymorth yn hir yn cyrraedd.  

“Mae Twrci ar ben” meddai un wraig oedrannus oedd heb fwyta ers pedwar diwrnod.  

Mewn ymateb i feirniadaeth o’r Llywodraeth daeth yr Arlywydd i Kahramanmaraş gan fynnu bod y sefyllfa bellach dan reolaeth.

Mae’n teimlo i mi fel gwladwriaeth sydd ar y dibyn.

Dydd Gwener, 10 Chwefror 

Image
Tîm achub cwn o Hwngari wrth ei waith
Un o dîm achub cŵn Hwngari wrth ei waith. 

Rhanbarth Hatay, ar y ffin gyda Syria, sy’ ‘di cael ei tharo waethaf gan y drychineb. Ma’r dinistr yn Antakya ar raddfa fwy nac unman.

Ar y daith lawr, dyma’n cyfieithydd yn rhaffu straeon am ddinas hynafol lle mae diwylliannau’n cwrdd.  Draw i’r gorllewin ma’ traeth hiraf Twrci. Dyma’r lle am fwyd môr, a kebabs gorau’r byd, medde fe.

Does dim ar ôl. 

Drwy hedfan drôn ry’n ni’n gweld maint y difrod. Mae ardaloedd cyfan yn ulw.

Image
Syniad o ehangder y dinistr yn Antakya
Dinas Antakya.

Wedi eu creithio gan graciau bydd rhaid dymchwel llawer iawn o’r adeiladau sy’n dal i sefyll.  

Ar ôl i dryc sgrialu i stop ar ddarn o dir diffaith, neidiodd criw achub o Hwngari o’r cefn cyn danfon cŵn chwilio i grombil beth oedd yn floc o fflatiau 10 llawr o uchder.  

Ma’ camerau ar goleri’r cŵn yn ffilmio’r ddrysfa tu mewn, cyn i galonau’r tîm suddo o weld dim ond person a babi bach yn farw ar y sgrîn fach.

Image
Iwan Griffiths ar aelod o dîm achub cwn Hwngari
Iwan Griffiths yn cyfweld aelod o dîm achub cŵn Hwngari.

Wedi llwyr ymlâdd, “does dim bywyd” meddai arweinydd y tîm. Gadawodd y tryc ar frys i’r lleoliad nesa’ gyda’r cloc yn tician.

Cyn hir mae’n nosi ac arogl mwg tân a llwch cas concrit yn llenwi’r awyr. Y coelcerthi bach ar bob cornel sy’n cynnig yr unig olau a gwres i’r dioddefwyr, wrth i’r tymheredd ddisgyn o dan y rhewbwynt heno eto.

Dydd Sadwrn, 11 Chwefror 

Image
Zahide, yn gwylio'r peirianau trymion yn dymchwel cartref, a chorff ei mham rhywle yng nghanol y rwbel
Zahide yn gwylio peiriannau trymion yn dymchwel ei chartref.

Ry’n ni’n deffro yn Iskenderun ar ôl gyrru dros nos o Antakya oedd wedi dechrau teimlo’n anniogel. Mi roedd yn benderfyniad doeth o ddarllen adroddiadau am wrthdaro, dwyn a hyd yn oed saethu yno wrth i anobaith ledu.

Mae’r ail-drychineb a thrallod y goroeswyr nawr yn dechrau gafael.

Ar gelfi plastig mewn gardd fechan oddi ar stryd brysur ma’ Zahide yn syllu’n syn ar beiriannau’n chwalu beth oedd yn gartref clyd.

Mae’n egluro i’w thad gael ei ddarganfod yno’n farw.

Er ymgais ar ôl ymgais i ddod o hyd i’w mam, doedd dim golwg.

Aros mae Zahide. Mae’n disgwyl yn amyneddgar - ei chadair yn siglo ’nôl a ’mlaen fel pendil. Rhaid dymchwel yr adeilad cyn gallu dechrau pori drwy’r rwbel am y corff.

Image
Shenel
Shenel yn dangos y tŷ lle bu farw ei chwaer yng nghyfraith.

Ar draws y ffordd ma’ Shenel yn colli deigryn wrth ddangos gweddillion y tŷ lle bu farw ei chwaer yng nghyfraith.

Mae Nurettin yn pwyntio drwy dwll yn y wal at y gwely lle’r oedd e’n cysgu adeg y cryniadau. Y nenfwd erbyn hyn sy’n gorwedd ar y matres.

Ma’i wraig, Fidan, yn gwisgo esgidiau y cafodd hi gan gymydog caredig yn fuan ar ôl dianc. Bu farw honno funudau’n ddiweddarach, ei esgidie’n dal ar dir, a thraed y byw.

Wedi’r tristaf o wythnosau, ma’ pawb a’i stori.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.