
Cynllun anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn 'arf i frawychu'
Cynllun anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn 'arf i frawychu'

Mae gwirfoddolwyr Cymraeg yn Calais wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am eu cynllun i anfon ceiswyr lloches i Rwanda.
Dywedodd Andy Coleman, gwirfoddolwr ar ran yr elusen Care4Calais a’r ganolfan Oasis sy’n rhoi cymorth i geiswyr lloches yng Nghaerdydd, fod y cynllun yn cael ei ddefnyddio fel arf “i frawychu pobl” sydd yn dod i’r DU i geisio am loches.
Mewn cyfweliad gyda’r rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, dywedodd: “Mae ffoaduriaid yn ofnus oherwydd dywedwyd wrthynt eu bod yn mynd i gael eu hanfon i Rwanda.
“Mae'n debyg bod y gyfradd o hunanladdiad wedi codi ymhlith ffoaduriaid o ganlyniad i hyn,” meddai Andy.
Dywed y Swyddfa Gartref y dylai pobl geisio am loches yn y wlad ddiogel gyntaf maen nhw’n ei chyrraedd.
Mae Calais yn gartref i dros 2,000 o fudwyr sydd yn chwilio am fywydau gwell.

Dywedodd Steve Williams, gwirfoddolwr arall: “Gan ystyried mai’r uchelgais iddyn nhw yw i ddod i’r DU ond wedyn mae nhw’n cael eu gyrru draw i Rwanda fel pwynt o drefn, mae hi’n eitha’ brawychus nagyw hi?
“Y peth amlyca’ o’r bobl sy’n siarad gyda ni, maen nhw’n siarad am eu CVs nhw i weud ‘ma gynno ni pethe i gynnig, ni ishe rhoi nôl tuag at y system’. Maen nhw jyst ishe safon bywyd.”
45,728 wedi croesi'r sianel yn 2022
Dywedodd Arram, mudwr 20 oed o Sudan, ei fod e wedi ceisio a methu cyrraedd y DU sawl gwaith.
“Dw i wedi trio ar gwch ac ar lori ond mae’n wirion. Mae’n rhaid talu fel 2,000 neu 1,000 i fynd ar un o’r cychod bach. Mae’n rhy ddrud.
“Mae’n beryglus iawn. Weithiau mae pobl yn marw neu’n anafu eu hunain. Dyw e ddim yn hawdd ond pan mae gen ti freuddwyd mae’n rhaid ei ddilyn,” ychwanegodd.

Esboniodd ei fod wedi gadael ei wlad enedigol oherwydd y bygythiad i’w fywyd ac i fywyd ei deulu. Mae Arram yn benderfynol o gyrraedd y DU.
“‘Dw i wedi clywed bod y DU yn neis oherwydd mae hi’n saff a fe alla i ddod o hyd i swydd. Nid fel Ewrop, ble mae hi’n anodd iawn.”
Fe wnaeth 45,728 o fudwyr groesi’r sianel o Ffrainc i Loegr yn 2022, cynnydd o 17,166 ers 2021.
Fis Ebrill y llynedd cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cynllun i alltudo rhai ceiswyr lloches i Rwanda, mewn ymgais i geisio atal pobl rhag teithio trwy ddulliau anghyfreithlon.
Yn trafod polisi Rwanda ar raglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies: “I ryw raddau mae yn polisi rhag atal pobl i ddod ‘ma neu i sicrhau bod pobl yn ail ystyried cyn dod ma trwy ffordd anghyfreithlon.
“Mae’n bwysig i ni groesawu pobl, ffoaduriaid gwir, fel rydyn ni wedi croesawu pobl o Hong Kong, Afghanistan ac Wcráin.
"Ond os ydyn ni eisiau croesawu pobl sydd wedi dod yma trwy ffyrdd cyffreithlon, mae’n bwysig ein bod ni’n gallu rheoli pwy sy’n dod, o ble maen nhw’n dod a faint o bobl sy’n dod trwy ffyrdd anghyfreithlon.”
Mae Jess Sharman, gweithiwr llawn amser i’r elusen Care4Calais yng Ngogledd Ffrainc, yn cwestiynu strategaeth Llywodraeth y DU ac yn credu bod modd “trwsio’r” broblem os yw’r Llywodraeth yn newid ei pholisi.
Dywedodd: “Dylen nhw allu cael llwybr diogel a chyfreithlon i’r DU os mai dyna lle maen nhw eisiau bod. Ddylen nhw ddim gorfod peryglu eu bywydau, ddylen nhw ddim fod yn oer ac yn wlyb am hanner y flwyddyn.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Dylai pobl geisio am loches yn y wlad ddiogel gyntaf maen nhw’n ei chyrraedd ac ni ddylai unrhyw un beryglu bywyd neu gymryd teithiau anghyfreithlon i groesi’r sianel.”
Y Byd ar Bedwar nos Lun, 13 Chwefror, 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.