Newyddion S4C

Ta-ta Tŷ Bach: Cwynion am gau toiledau mewn pentref glan môr yng Ngheredigion

10/02/2023
Cei Newydd

Bydd pentref glan-y-môr yng Ngheredigion, sydd wedi ei enwi fel un o’r lleoliadau gwyliau mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig, yn colli ei dai bach a gwasanaeth casglu sbwriel o'r traeth.

Cafodd Cei Newydd ei enwi fel yr hoff leoliad i ymwelwyr fynd ar eu gwyliau yng Nghymru yn 2023 gan wefan gwyliau HomeToGo, ac roedd yn drydydd ar y rhestr ar draws y Deyrnas Unedig.

Ond yn dilyn penderfyniad gan Gyngor Sir Ceredigion, bydd toiledau’r pentref yn cael eu cau ac fe fydd biniau ger traeth Cei Newydd yn cael eu gwaredu.

‘Siom’

Dywedodd Julian Evans, Cadeirydd Cyngor Tref Cei Newydd: “Hoffai aelodau Cyngor Tref Cei Newydd ddatgan ein siom yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i gau cyfleusterau cyhoeddus Sandy Sip a chael gwared ar y biniau ger prif draeth Cei Newydd.

“Maen nhw’n cau’r cyfleusterau gan eu bod angen atgyweiriadau sylweddol ac nid oes gan y cyngor sir y gyllideb i dalu’r costau. Mae’r cyngor tref wedi pwysleisio i’r cyngor y dylai’r cyfleusterau aros ar agor gan eu bod nhw’n cael llawer iawn o ddefnydd; ond doedd ddim wedi gweithio.”

‘Cyd-weithio’

Mae’r cyngor tref yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn gwneud pob ymdrech i gadw’r pentref yn daclus

“Mae Cyngor Tref Cei Newydd yn obeithiol y bydd defnyddwyr y traeth yn mynd a’i sbwriel gartref gyda nhw neu i’r biniau agosaf, yng Nghnwc. Gobeithio gall bawb gyd-weithio i gadw Cei Newydd yn daclus i bawb.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion:

"Mae Swyddogion o’r Cyngor Sir wedi mynd ati’n rhagweithiol i ymgysylltu â Chynghorau Tref, gan gynnwys Ceinewydd, mewn perthynas â materion glanhau strydoedd.  Trwy nodi’n gliriach yr hyn y gall y Cyngor Sir ei ddarparu’n realistig gyda’r adnoddau a ddyrannwyd, bydd hyn yn galluogi rhanddeiliaid lleol, megis y Cyngor Tref, i ystyried pa ymyriadau y maent am eu hystyried a’u gweithredu i fodloni eu disgwyliadau lleol.

"Mae yna broblemau hirdymor wedi bod gyda’r adeilad sy’n cynnwys y toiledau ger Sandy Slip gyda’r ddarpariaeth wedi bod ynghau ers mis Mai 2022. Yn ystod ymweliad diweddar â’r safle gyda’r cynrychiolydd lleol o’r Cyngor Sir, Cyngor Tref a busnesau lleol, lle trafodwyd yr holl faterion, roedd yna gytundeb consensws nad oedd y toiledau ar y lleoliad hwn yn opsiwn hyfyw mwyach.

"Mae yna ddarpariaeth toiledau arall ar gyfer y traeth hwn ar Stryd Sant Ioan (St John Street) sy’n fwy cyfleus ar gyfer defnyddwyr y traeth. Bydd yn rhaid adrodd wrth Gabinet Ceredigion am gymeradwyaeth ar gyfer unrhyw achos o gau’r ddarpariaeth yn derfynol.

"Mae’r Cyngor Sir yn edrych ymlaen at barhau â deialog gadarnhaol â’r Cyngor Tref gan nad yw’r cyfrifoldebau am gynnal yr amgylchedd lleol yn perthyn i unrhyw un sefydliad yn unig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.