Ymwelwyr o Brydain 'ar ben eu digon' wrth gael teithio unwaith eto

Sky News 17/05/2021
Algarve

Mae rhai o deithwyr cyntaf y Deyrnas Unedig wedi glanio yn yr Algarve ym Mhortiwgal wrth i gyfyngiadau ar deithio rhyngwladol gael eu llacio.

Mae Portiwgal yn perthyn i'r rhestr werdd ar gyfer cyfyngiadau teithio rhyngwladol, sy'n golygu nad oes yn rhaid i bobl sy'n teithio yno hunanynysu. 

Serch hynny, fe fydd yn rhaid i deithwyr ddangos eu bod nhw wedi cael prawf negyddol cyn hedfan, yn ogystal â phrawf negyddol ar ôl glanio, ac yna un arall ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig. 

Roedd Llywydd twristiaeth yr Algarve ym maes awyr Faro i groesawu ymwelwyr yn ôl ddydd Llun. 

Dywed Sky News fod mesurau atal lledaenu'r feirws yn eu lle ym Mhortiwgal, megis ymbellhau cymdeithasol o 1.5 metr ar draethau, a cyrffiw o 22:30 ar dafarndai a bars. 

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.