
Disgyblion lleol yn rhyddhau 100 o bysgod prin yn Llyn Padarn
Disgyblion lleol yn rhyddhau 100 o bysgod prin yn Llyn Padarn

Mae disgyblion ysgol yng Ngwynedd wedi rhyddhau 100 o bysgod prin yn Llyn Padarn, ger Llanberis.
Mae ‘Prosiect Torgoch’ gan Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru wedi cynnig cyfle i ddisgyblion Ysgol Waunfawr warchod bodolaeth pysgod y pysgodyn Torgoch sydd dan fygythiad.
Ym mis Rhagfyr, bu disgyblion yn gofalu am dros gant o wyau Torgoch ac yn eu monitro. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, fe wnaethon nhw ddaeor i fod yn bysgod bach.
Wythnos yma fe wnaeth 45 o ddisgyblion ryddhau’r Torgoch i’w cartref newydd, Llyn Padarn.

Yng Nghymru, dim ond tair poblogaeth frodorol o'r Torgoch sydd ar ôl. Mae'r tair poblogaeth yn byw yn llynnoedd Eryri; Llyn Cwellyn, Llyn Bodlyn, a Llyn Padarn.
Dywedodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Robin Parry: “Mae'r prosiect hwn yn hanfodol i ysbrydoli'r don nesaf o ecolegwyr, gwyddonwyr, ac amgylcheddwyr a fydd yn mynd ymlaen i warchod afonydd, llynnoedd, a Thorgoch yn Eryri yn y dyfodol.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro poblogaethau Torgoch yn flynyddol. Mae newid yn yr hinsawdd wedi gweld hafau cynhesach yn achosi sychder a glaw trwm, gan achosi fflachlifoedd, a cholli cynefinoedd.

Meddai Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Laura Owen Sanderson: “Mae Prosiect Torgoch yn rhan o fudiad ehangach i godi ymwybyddiaeth o gyflwr poblogaethau Eryri Torgoch cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
“Yn nalgylch Seiont yn unig, arllwysodd carthion i’r system afon hon am 7,554 awr (315 diwrnod) yn 2021, gyda 1005 o ollyngiadau unigol wedi’u cofnodi. Mae'r Torgoch yn wynebu llawer o heriau modern i oroesi, a rhaid inni weithredu nawr.”