Newyddion S4C

Rhybuddion y gallai merched gefnu ar chwaraeon yn sgil diffyg cyfleusterau mislif

Newyddion S4C 09/02/2023

Rhybuddion y gallai merched gefnu ar chwaraeon yn sgil diffyg cyfleusterau mislif

Mae yna rybuddion y gallai merched gefnu ar chwaraeon yn sgil diffyg cyfleusterau ar gyfer y mislif.

Yn ôl un o garfan rygbi rhyngwladol Cymru, mae prinder tai bach, papur tŷ bach a biniau mewn clybiau yn broblem gyfarwydd.

“Pethau bach fel ‘na, dyw dynion just ddim yn meddwl am,” meddai Elinor Snowsill wrth raglen Newyddion S4C.

Diffyg cyllideb yn ogystal â diffyg parch at gampau’r merched sy’n gyfrifol, yn ôl arbenigwr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am roi £24m erbyn 2025 tuag at wella cyfleusterau. 

‘Newid tampon wrth ochr y cae’

Fe ddywedodd Elinor Snowsill, sydd â 71 o gapiau dros Gymru, ei bod wedi cael ei dal allan sawl gwaith gan ddiffyg cyfleusterau.

“Unwaith o’dd rhaid i fi rhoi tampon mewn wrth ochr y cae ymarfer mewn rhyw focs ble o’n nhw’n cadw’r cit - y pads a’r peli a phethau,” meddai.

“O’n i'n poeni wedyn a fyddai un o’r dynion staff yn cerdded mewn tra bo’ fi’n ‘neud e. Dyw hwnna just ddim yn ddigon da.”

A hithau nawr yn chwarae ar y lefel ryngwladol, fe ddywedodd y maswr o Gaerdydd bod y sefyllfa wedi gwella gydag Undeb Rygbi Cymru yn cynnig hyfforddiant pelfig a nwyddau mislif am ddim i'w chwaraewyr, yn ogystal ag addysg am y mislif.

Ond mae dal ffordd i fynd mewn caeau chwarae'n gyffredinol, meddai.

“Mae ‘na dal amseroedd os y’n ni’n teithio i ffwrdd, ble does ‘na ddim cyfleusterau yn y tŷ bach.”

Gall symptomau’r mislif eisoes ei gwneud hi’n anodd i ferched gymryd rhan mewn chwaraeon, medd Ms Snowsill.

“Dydyn ni ddim angen hyd yn oed mwy o rwystrau, gyda’r ffaith bod ‘na ddim cyfleusterau.  

“Unwaith pob mis ma’ hwn yn digwydd... nid unwaith pob hyn a hyn, ond 12 gwaith y flwyddyn.”

Fe ddywedodd Undeb Rygbi Cymru ei bod yn awyddus i ddileu unrhyw rwystrau sy'n atal merched rhag cymryd rhan yn y gamp, a'u bod am holi pob clwb yng Nghymru am y cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Yr un yw’r broblem ar lawr gwlad, meddai chwaraewyr Clwb Pêl-Droed y Felinheli. 

Yn ôl Nel Huws, mae diffyg cyfleusterau i ferched wedi ei “normaleiddio” am ei fod mor gyffredin. 

"'Di o ddim hyd yn oed yn croesi meddwl fi weithiau bod ‘na ddim cyfleusterau, achos ti ‘di arfer gymaint bod ‘na ddim.” 

Mae’n rhaid gwella’r sefyllfa, medd Ms Huws, “achos mae’n really effeithio’r ffordd ‘da chi’n gallu ‘neud chwaraeon."

'Creu i ddynion'

Ychwanegodd un sy’n hyfforddi ac yn chwarae i'r clwb eu bod wedi cyrraedd sawl gêm a darganfod nad oedd unrhyw adnoddau yn y tai bach. 

“Dim hyd yn oed papur toiled, dim biniau o gwbl ar gyfer cynnyrch,” medd Llio Emyr. 

“Dw i'n meddwl bod y rhan fwyaf o’r cyfleusterau wedi cael eu creu i ddynion o’r dechrau, yn amlwg. 

“Mae angen dilyn y ffordd o ran, os da chi’n mynd i ganolfannau hamdden ac ati, mae ‘na ddigon o gyfleusterau yn fanna.” 

Fe allai’r sefyllfa gael sgil effaith ddifrifol ar iechyd cyhoeddus, medd un sy’n ymchwilio i’r mislif o fewn chwaraeon. 

“Y gwir yw mae’n atal merched a menywod rhag gymryd rhan yn eu camp,” meddai Dr Natalie Brown, “am eu bod nhw’n poeni am waedu trwy eu dillad, neu beidio gallu rheoli eu mislif.

“Os ydyn ni’n edrych ar iechyd a lles yn y tymor hir, mae’r goblygiadau’n enfawr.” 

Yn rhannol gyfrifol yw diffyg cyllideb, medd yr arbenigwr, yn enwedig i glybiau ar lawr gwlad sy’n dibynnu’n fwy ar greu arian i'w hunain. 

Ond weithiau, blaenoriaethu campau’r dynion dros rhai’r merched sy’n gyfrifol, meddai Dr Brown. 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar eu cynllun urddas mislif. Sut allwn ni ffac, darparu cyllideb a darparu cyfleusterau i glybiau?” 

Yn 2022, fe ddywedodd 8% o ferched ysgol yng Nghymru gafodd eu holi gan Chwaraeon Cymru y bydden nhw’n gwneud mwy o ymarfer corff pe bydden nhw’n gallu rheoli eu mislif yn well.

'Rhan o'r sector chwaraeon yng Nghymru'

Yn ôl Owen Hathaway o'r corff, mae sicrhau cyfleusterau o safon yn hollbwysig.

“Nid just ar gyfer datrys y broblem o ferched yn gallu cymryd rhan o gwmpas y mislif, ond merched yn cymryd rhan yn gyffredinol a theimlo eu bod nhw’n rhan o’r sector chwaraeon yng Nghymru.”

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn benderfynol o sicrhau nad ydy merched yn rhoi'r gorau i chwaraeon o ganlyniad i'w mislif.

"Ers 2018 rydyn ni wedi buddsoddi tua £12m i sicrhau fod gan blant a phobl ifanc a'r rheiny ar incwm isel fynediad at nwyddau mislif yn rhad ac am ddim, yn ogystal â £24m dros y dair blynedd nesaf ar gyfer Chwaraeon Cymru i ddatblygu cyfleusterau.

"Rydyn ni'n falch o'r hyn mae'r arian yma wedi ei gyflawni, ac o'n gwaith gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gyflenwi ysgolion, colegau a chymunedau a nwyddau ar gyfer y mislif."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.