Newyddion S4C

Trawsryweddol: ‘Disgwyl blynyddoedd am awpyntiadau'

Trawsryweddol: ‘Disgwyl blynyddoedd am awpyntiadau'

NS4C 12/02/2023

Mae bachgen trawsryweddol o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd yn dweud “bod angen diwygio’r system feddygol” ar gyfer pobl trawsryweddol yng Nghymru.

Fe ddaeth Frankie Bryn, sydd erbyn hyn yn 18 oed, allan fel person trawsryweddol yn 13 oed.

Roedd yn rhaid i Frankie ddisgwyl tair blynedd am apwyntiad cychwynnol ac mae’n parhau i ddisgwyl i ddechrau triniaeth.

“Ar ôl fi ddod allan nath CAMHS referio fi i Tavistock Gender Clinic ac o’n i’n meddwl, finally rhywun sydd am ddalld fi,” meddai Frankie wrth Newyddion S4C.

“Nathon nhw ddeud bod yna tua 18 wythnos o waiting list ac wedyn nai weld rhywun, a oedd huna pam o’n i yn 13 oed. Ges i apwyntiad pan o’n i yn 16.

“Erbyn hyn o’n i yn gwybod yn union pa medical transition o’n i angen, sef testosteron. So neshi weld nhw a natho nhw ddeud sori da ni methu rhoi dim i chdi jyst siarad.”

O 16 oed ymlaen, gall pobl ifanc sydd wedi bod ar atalyddion hormonau am o leiaf 12 mis gael hormonau traws-rhyw.

'Heb fynd i nunlla' 

Ychwanegodd Frankie, “Yr opsiwn gyntaf oedd blockers am flwyddyn ac wedyn testosteron. Ond o’n i 16 erbyn hyn ac mae blockers ond yn effeithiol i bobl ifancach, so geshim neud huna chwaith.

“Dwi’n gwybod be dwi angen, dwi wedi gwybod be dwi angen ers pum mlynedd a dydy hynny heb newid o gwbl a dwi jyst heb gael o.”

Mae Frankie yn credu nad yw’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi ei baratoi a'i gyfarparu'n ddigonol ar gyfer pobol trawsryweddol.

“O ran proses fi, dwi basically heb fynd i nunlla erbyn hyn, mae o wedi bod pum mlynedd ers i fi gael fy refferio am help meddygol a dwi ddim wedi cael dim byd.

“Dwi’n gobeithio cael prescriptwin rŵan, dwi wedi gweld surveys oedolion a ma’ nhw wedi gaddo i fi ers mis Awst bo’ fi am gael mynd ar destosteron yn fuan."

Mae derbyn triniaeth testosteron yn achosi datblygiad gwrywaidd nodweddiadol, fel mwy o wallt wyneb, màs cyhyr cynyddol, a llais dyfnach.

'Misgenderio'

Yn ôl Frankie mae’r oedi yn y driniaeth wedi ei “ddal yn nôl".

“Dwi’n gwybod pwy dwi, dwi’n gweld fi fel ydw i ond be ma’r testosteron yn mynd i helpu efo ydy sut ma’ pobl eraill yn gweld fi," meddai.

“Neith testosteron newid llais fi, muscle redistribution, so fydd muscles fi yn gwynab a corff fi yn symud chydig bach, facial hair - mana jyst gymaint o betha rili.

“Dwi’n gwybod pwy ydw’i, y broblem ydi pam dwi’n gadael y bubble a mynd allan i’r byd ma’ peidio cael testosteron wedi setio fi nôl, dwi ddim yn teimlo yn gyfforddus gwisgo dillad sydd rhy feminine, rhagofn i rywun ddeud rwbath.

"Dwi wedi bod isio tyfu gwallt fi allan ond swni methu neud hynna nes bo fi ar destosteron achos bydd pobl yn misgendro fi.”

'Cynnydd'

Ddydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun newydd er mwyn ceisio sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.

Mae’n cynnwys ymroddiad i wneud cais i Lywodraeth y DU am rymoedd dros gydnabod rhywedd unigolion a hwyluso’r broses o gael Tystysgrif Cydnabod Rhyw.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn: “Rydyn ni wedi dod ffordd bell yn ystod y degawdau diwethaf, ond allwn ni ddim llaesu dwylo.

“Allwn ni fyth gymryd cynnydd yn ganiataol, a ddylen ni fyth wneud hynny. Mae cymunedau LHDTC+ yn parhau i fod dan ymosodiad, ac mae’r hawliau yr ydyn ni wedi brwydro mor galed drostyn nhw mewn perygl o gael eu herydu o amgylch y byd, gan gynnwys yma yn y DU."

Dywedodd y Gwasanaeth Iechyd  na allent wneud sylw ar y materion penodol a godwyd gan Frankie. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.