Llacio'r cyfyngiadau: Beth ga i wneud yn wahanol nawr?
Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi cael eu llacio mewn sawl rhan o'r Deyrnas Unedig ddydd Llun.
Efallai bod hawl gan bobl i gofleidio yn Lloegr bellach, ond 'cwtsh heb dwtsh' fydd hi yng Nghymru am y tro.
Felly beth sydd wedi newid yma, a beth yn union gawn ni wneud nawr?
Ga i fynd draw i dŷ fy ffrindiau?
Mae'n dibynnu. Tu fas, fe allet ti gwrdd ag eraill mewn grŵp o hyd at chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd gwahanol. Mae hyn yn cynnwys mewn gerddi preifat.
Tu fewn? Dim ar hyn o bryd. Ond, mae modd ffurfio aelwyd estynedig gydag un aelwyd arall sy'n golygu bod hi'n iawn i ti gymysgu gyda nhw dan do mewn cartrefi preifat.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ystyried gadael i hyd at chwe pherson gyfarfod dan do o 7 Mehefin yn dilyn yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau, ac efallai y bydd modd i hyd at dair aelwyd ffurfio aelwyd estynedig bryd hynny hefyd.
Os bydd y sefyllfa'n parhau'n ffafriol o ran Covid-19 yng Nghymru, bydd hyd at 30 o bobl hefyd yn cael cwrdd yn yr awyr agored.
Beth am y diwydiant lletygarwch?
Ar ôl bron i bum mis, mae'r sector lletygarwch yn gallu dechrau gweini cwsmeriaid dan do unwaith eto.
Yn y sector lletygarwch, mae'r rheolau'r un peth ar gwrdd yn yr awyr agored ond maen nhw ychydig yn wahanol am gyfarfod tu fewn, gyda hawl mynd am bryd o fwyd neu goffi mewn grŵp o hyd at chwe pherson o chwe aelwyd wahanol.
Mae mesurau yn eu lle i gadw pobl yn ddiogel, gan gynnwys bylchau o ddau fetr rhwng byrddau, defnydd cyson o hylif golchi dwylo a bydd angen gwisgo mwgwd pan 'dych chi ddim wrth y bwrdd.
Efallai y bydd rhaid archebu bwrdd o flaen llaw mewn mannau, ond mae rhai llefydd yn croesawu pobl i ymweld heb orfod archebu bwrdd o flaen llaw.
Gai fynd ar fy ngwyliau?
Cei, o fewn Cymru ac o fewn gweddill y DU. Mae bellach gan y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yr hawl i ail-agor yn gyfangwbl.
Mae hefyd modd teithio i ambell wlad dramor heb orfod hunanynysu ar ôl dychwelyd i Gymru, gan ddilyn system oleuadau traffig y llywodraeth.
Mae'r gwledydd ar y rhestr werdd yn cynnwys Awstralia, Gwlad yr Ia, Seland Newydd a Phortiwgal. Mae angen darparu tystiolaeth o brawf negyddol cyn teithio, a bydd angen cymryd prawf Covid-19 arall rhai dyddiau ar ôl dychwelyd i Gymru.
Ar hyn o bryd, cei fynd ar dy wyliau gyda'r bobl o dy aelwyd neu dy aelwyd estynedig.
Gai fynd i wylio ffilm mewn sinema?
Cei, o ddydd Llun mae hyn yn newid hefyd.
Bydd hawl i sinemâu ail-agor yng Nghymru, ond efallai nid pob sinema fydd yn ail-agor yn syth, felly mae'n well gwirio cyn mynd a hefyd yn syniad i archebu tocyn o flaen llaw lle mae hynny'n bosib.
Beth am gigs a gwyliau cerddoriaeth?
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal treialon ar gyfer digwyddiadau torfol.
Roedd 500 o bobl yn bresennol yn Tafwyl yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn ac roedden nhw wedi gorfod cael canlyniad prawf Covid-19 negyddol cyn gallu mynychu.
Os bydd y treialon y llwyddiannus, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud y bydd hi'n bosib ystyried cynnal mwy o ddigwyddiadau torfol pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu hadolygu nesaf.