Newyddion S4C

Dros 20,000 wedi marw yn naeargryn Twrci a Syria

Dros 20,000 wedi marw yn naeargryn Twrci a Syria

NS4C 09/02/2023

Mae dros 20,000 o bobl bellach wedi marw o ganlyniad i'r daeargryn nerthol sydd wedi creu dinistr sylweddol yn nwyrain Twrci a gogledd Syria.

Dywed Sefydliad Iechyd y Byd y gallai llawer iawn mwy o bobl farw wrth i bobl sydd wedi eu heffeithio geisio ymdopi heb gysgod dros y dyddiau nesaf.

Mae'r ymdrech achub yn un araf ac anodd yn y ddwy wlad medd yr awdurdodau, ac mae llywodraeth Twrci wedi wynebu beirniadaeth am beidio ag ymateb i'r trychineb yn gynt.

Yn Syria, mae ymdrechion timau achub wedi eu harafu gan fod y wlad wedi gweld ymladd ffyrnig dros y blynyddoedd diwethaf, gyda ffyrdd ac isadeiledd y wlad wedi eu dinistrio'n barod cyn y daeargryn.

Yn y cyfamser mae Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) Cymru wedi lansio apêl i godi arian ar frys i helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan y daeargrynfeydd dinistriol yn Nhwrci a Syria.

Bydd y prif ddarlledwyr i gyd yn darlledu Apêl Argyfwng DEC gan gynnwys S4C, BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 ac Sky.

Bydd DEC Cymru hefyd yn cyhoeddi lansiad yr apêl Ddydd Iau o flaen y Senedd ym Mae Caerdydd am hanner dydd.

Meddai Sian Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC Cymru: “Yn Nhwrci yn unig, mae 6,000 o adeiladau gan gynnwys ysgolion a chanolfannau iechyd wedi dymchwel, gyda seilwaith sy’n hanfodol i fywyd bob dydd fel glanweithdra a chyflenwadau dŵr wedi’u difrodi’n ddifrifol.

“Rydym yn gwybod fod arian yn brin i lawer o bobl yma yn y DU wrth i’r argyfwng costau byw barhau, ond os gallwch chi, plis cyfrannwch i gefnogi pobl sydd wedi’u dal yn y drychineb ddychrynllyd yma.”

'Clirio’r rwbel'

Yn dilyn y daeargryn mae miloedd o adeiladau, gan gynnwys ysbytai ac ysgolion, wedi dymchwel ac mae seilwaith wedi'i ddifrodi'n ddifrifol. Mae gwasanaethau brys lleol yn chwilio drwy'r rwbel am oroeswyr.

Mae llawer o bobl wedi eu gadael heb gysgod mewn amodau gaeafol rhewllyd, meddai Pwyllgor Argyfyngau Brys Cymru, a mae disgwyl y bydd mwy o anghenion dyngarol dros y dyddiau nesaf.

Mae cyrraedd dŵr glân yn debygol o fod yn her, gan gynyddu’r risg o glefydau dŵr budr. Roedd achos o golera yng ngogledd-orllewin Syria cyn y daeargryn.

Yn Nhwrci mae mwy na 20,000 o bobol wedi’u hanafu. Yn ôl llywodraeth Twrci, mae 380,000 o bobol angen lloches mewn gwestai neu lochesi’r llywodraeth.

Chwalwyd llawer o adeiladau yng ngogledd-orllewin Syria hefyd, lle mae llawer o bobl wedi ffoi yn dilyn y gwrthdaro yn y wlad ac mae cyfleusterau meddygol yn gyfyngedig.

Dywedodd Prif Weithredwr DEC,  Saleh Saeed: “Mae’r dinistr yn Nhwrci a Syria yn dorcalonnus, gyda miloedd o bobl yn colli anwyliaid yn sydyn yn y ffyrdd mwyaf ysgytwol.

“Mae angen arian ar frys i gefnogi teuluoedd gyda chymorth meddygol, lloches brys, bwyd a dŵr glân mewn tywydd gaeafol, rhewllyd.  Mae 14 o’n elusennau yn ymateb yn Nhwrci a Syria a gallant wneud mwy gyda’ch help chi. “

'Cysgu mewn ceir'

Mae gweithwyr dyngarol wedi dweud fod pobl sydd wedi'u dadleoli o ganlyniad i’r gwrthryfel, sy'n byw mewn pebyll, yn croesawu teuluoedd y mae eu cartrefi wedi'u dinistrio i’w pebyll.

Mae elusennau DEC a'u partneriaid lleol ymhlith yr ymatebwyr cyntaf, ac yn gweithio gyda chriwiau achub lleol. Y blaenoriaethau yw triniaeth feddygol i'r rhai sydd wedi'u hanafu, lloches i'r rhai sydd wedi colli eu cartrefi, yn ogystal â blancedi, dillad cynnes a gwresogyddion ar gyfer mannau diogel. Maent hefyd yn sicrhau bod pobl yn cael digon o fwyd a dŵr glân.

Mae'r DEC yn dod â 15 o elusennau cymorth blaenllaw at ei gilydd ar adegau o argyfwng dramor. Mae 14 o’r rhain yn ymateb yn Nhwrci a Syria gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig, ActionAid ac Achub y Plant.

Dywedodd Salah Aboulgasem o Islamic Relief, sydd wedi’i leoli yn Gazientep, Twrci: “Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw achub bywydau trwy glirio’r rwbel. Y flaenoriaeth wedyn fydd cefnogi pobl sydd wedi colli eu cartrefi ac sydd wedi mynd trwy drawma enfawr. Mae angen meddyginiaethau a chynhesrwydd ar bobl. Mae yna lawer o sgrechian, a phobl yn ceisio dod o hyd i berthnasau.

“Mae llawer o bobl yn cysgu mewn ceir oherwydd eu bod yn ofni mynd yn ôl i mewn i'r adeiladau gyda’r ôl-gryniadau. Mae'r ceir yn rhewi oer.

“Mae gan Islamic Relief lawer o staff lleol a rhaglen sydd wedi’i hen sefydlu yn yr ardal. Maen nhw’n gweithio gyda mosgiau ac ysgolion i agor llochesi.”

Bydd pob punt a roddir gan y cyhoedd yn y DU yn cael ei chyfateb gan Lywodraeth y DU drwy gynllun ‘Aid Match’ hyd £2 filiwn. Bydd y cymorth hwn yn dyblu rhoddion y cyhoedd ac yn sicrhau bod elusennau sy’n gweithio ar lawr gwlad yn gallu cyrraedd y rhai sydd mewn angen dybryd.

Llun: Difrod y daeargryn y Nhwrci. Llun gan Voice of America

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.