Diflaniad Frankie Morris: Y chwilio'n parhau
Mae ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru i ddiflaniad dyn ifanc o Ynys Môn yn parhau yn ardal Pentir, Gwynedd ddydd Llun.
Mae Frantisek "Frankie" Morris, 18 o Landegfan, Sir Fôn, wedi bod ar goll ers 2 Mai.
Daeth cadarnhad dydd Sadwrn fod dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus fel rhan o'r ymchwiliad, a dyn a dynes hefyd wedi cael eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r heddlu yn dweud fod un person yn parhau yn y ddalfa, tra bod dau arall wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu'r Gogledd, Owain Llewelyn: "Bydd presenoldeb amlwg yr heddlu yn parhau ym mhentref Pentir dros y dyddiau nesaf wrth i ni barhau i gynnal archwiliadau.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth tra bod y cau angenrheidiol yn parhau i effeithio ar ffyrdd lleol".