Gemma Grainger yn cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan Pinatar
Mae rheolwraig pêl-droed menywod Cymru wedi cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Pinatar.
Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar 15 Chwefror yn Sbaen.
Gyda'r gêm gyntaf yn agosáu, mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi ei charfan o 27 o chwaraewyr, sydd yn cynnwys rhai wynebau newydd.
Dyma gemau cyntaf y tîm menywod yn 2023 yn dilyn ymgyrch gref i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2023 y llynedd.
Mae gôl-geidwad Sheffield United Bethan Davies wedi cael ei dewis i'r garfan am y tro cyntaf. Bydd hi'n ymuno â'r garfan pan fydd Safia Middleton-Patel yn gadael i ymuno â charfan dan 19 Cymru ar gyfer cystadleuaeth ym Mhortiwgal.
Fe all Gemma Grainger ennill cap rhif 50 os ydy hi'n chwarae dwy o gemau yn y gystadleuaeth.
Mae enwau cyfarwydd fel Laura O'Sullivan, Kayleigh Green a Jess Fishlock wedi cael eu cynnwys yn y garfan hefyd.
Bydd y Cymry yn herio Ynysoedd y Philipinau, Gwlad yr Iâ ac Iwerddon yn y gystadleuaeth eleni
Chwaraeodd Cymru yn y gystadleuaeth y llynedd, gan guro'r Alban cyn colli i Wlad Belg ac Iwerddon.
Y garfan yn llawn: Laura O'Sullivan, Olivia Clark, Safia Middleton-Patel, Bethan Davies, Rhiannon Roberts, Charlie Estcourt, Hayley Ladd, Josie Green, Gemma Evans, Lily Woodham, Esther Morgan, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Jess Fishlock, Ceri Holland, Megan Wynne, Kayleigh Green, Helen Ward, Elise Hughes, Georgia Walters, Carrie Jones, Hannah Cain, Rachel Rowe, Ella Powell, Alice Griffiths, Maria Francis-Jones.