Newyddion S4C

Agor bedd anghywir mewn angladd

ITV Cymru 07/02/2023
Paula Entwistle o Bwllheli wrth ymyl bedd ei mam.

Mae dynes wedi son am ei phrofiad wrth iddi edrych i mewn i fedd agored ei gŵr, ar ôl i'r darn anghywir o dir gael ei godi yn angladd ei mam.

Roedd Paula Entwistle o Bwllheli yn claddu ei mam, Carolyn Campous, a fu farw ar 14 Ionawr.

Mae Ms Entwistle yn honni bod trefnwyr yr angladd wedi gwneud sawl “gwall”, gan gynnwys codi bedd ei gŵr yn hytrach na bedd ei thad, sef y man gorffwys oedd wedi ei neilltuo ar gyfer ei mam.

Sylwodd ar y camgymeriad yn ystod y gwasanaeth pan roedd hi’n syllu i mewn i fedd ei gŵr, a fu farw saith mlynedd yn ôl, a’r man ble mae hi yn gobeithio cael ei chladdu ei hun ryw ddydd.

Cynigiwyd iddi aildrefnu’r gwasanaeth i’r wythnos ganlynol, ond fe wnaeth hi gytuno i’w gynnal yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Bu’n rhaid i aelodau o’r teulu adael y gwasanaeth a dychwelyd ymhen dwy awr i barhau.

Gwallau

Meddai Paula Entwistle: “Pan es i weld trefnydd yr angladd, dywedodd ei fod o ddim yn gallu dod o hyd i gofnodion fy nhad, felly fe wnaeth o ddefnyddio rhai fy ngŵr yn lle. Roeddwn i’n meddwl ei fod o’i angen i gyfeirio at y teulu yn unig, nid fel gwybodaeth i godi'r bedd.

“Pan ddaethom o’r capel, roedden nhw wedi codi bedd fy ngŵr yn lle bedd fy nhad. Dywedais: ‘dyna fedd fy ngŵr, dwi’n edrych i mewn i’m bedd fy hun. Dyna un fy nhad draw fan’na. Dwyt ti ddim yn ei roi o yn fan hyn pan mae o i fod draw fan’na.”

Roedd gwallau eraill yn cynnwys camsillafiad o enw ei mam, yn ogystal â theyrnged i ddieithryn gafodd ei argraffu ar drefn gwasanaeth ei mam trwy gamgymeriad, yn ôl Ms Enstwistle.

Dywedodd nad yw hi wedi derbyn ymddiheuriad, er bod y trefnydd angladdau Gruff Roberts yn mynnu eu bod nhw wedi ymddiheuro ar ddiwrnod y gwasanaeth.

Dywedodd Mr Roberts ei fod yn bwriadu cwrdd â’r teulu yn hwyrach yn yr wythnos: “Dw i’n teimlo’n flin iawn am beth ddigwyddodd ac wrth gwrs rydym yn ymddiheuro. Fy mai i oedd o ac rwy’n drist iawn fy hun.”

Er gwaetha’r ymddiheuriad, mae Ms Entwistle yn hynod siomedig: “Ni chafodd fy mam y gwasanaeth y gwnaeth hi dalu amdano. Gallwch ddweud sori, ond fedrwn ni ddim ail-wneud yr angladd, dydy hi ddim yn bosib ei ddadwneud. Dwi wedi edrych i mewn i'm bedd fy hun yn ddiangen.

"Fe wnaethon nhw godi dau fedd i un person, sut allen nhw wneud y camgymeriad yna?"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.