Ail fenyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerffili
17/05/2021
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos y nifer o bobl fethodd prawf anadl ym mis Rhagfyr.
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi fod ail fenyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhontllanfraith, Sir Gaerffili ar 8 Mai.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Astra a Ford Fiesta ar yr A4048 am 19:00.
Bu farw'r ddwy fenyw oedd yn teithio yn y Fiesta ar ôl cael eu cludo i'r ysbyty.
Mae menyw arall 29 oed oedd yn teithio yn yr un car yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Mae gyrrwr yr Astra, dyn 20 oed, hefyd yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2100161029.