Newyddion S4C

Daeargryn: Gallai mwy na 20,000 fod wedi marw yn Nhwrci a Syria

Daeargryn: Gallai mwy na 20,000 fod wedi marw yn Nhwrci a Syria

NS4C 07/02/2023

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud y gallai mwy na 20,000 o bobol fod wedi marw yn Nhwrci a Syria wedi daeargryn.

Mae tirwedd heriol a thymheredd rhewllyd wedi rhwystro ymdrechion i achub rhagor o bobol, gyda’r awdurdodau yn cadarnhau fod o leiaf 4,300 wedi eu lladd hyd yma.

Digwyddodd y daeargryn a oedd yn mesur 7.8 ar y raddfa Richter yn nhref Pazarcik yn nhalaith Kahramanmaras, tua 20 milltir o ddinas Gaziantep, chwe milltir o dan y ddaear ac roedd chwe ôl-gryniad pwerus.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Sabah, erbyn 06:00 amser Twrci fore dydd Mawrth roedd dros 13,000 o achubwyr wedi gadael Istanbul.

Dywedodd pennaeth swyddfa newyddion Middle East Eye yn Nhwrci fod yna ddicter yn rhanbarth Hatay yn ne Twrci ynglŷn â’r diffyg cymorth oedd yno.

Wrth gyfeirio at brifddinas y rhanbarth, Antakya, dywedodd fod “maes awyr y ddinas wedi'i ddifrodi, ac mae rhai ffyrdd sy'n arwain at y ddinas wedi chwalu.

“Fe chwalodd adeilad yr asiantaeth rheoli trychinebau hefyd ar ôl y daeargryn,” meddai Ragip Soylu.

‘Cymorth’

Dywedodd Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, ar Twitter ddydd Llun bod “timau chwilio ac achub yn cael eu hanfon ar unwaith” i’r ardaloedd a oedd wedi eu heffeithio.

“Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n dod trwy’r trychineb gyda’n gilydd cyn gynted â phosib a gyda’r difrod lleiaf posib,” ysgrifennodd.

Does dim adroddiadau am farwolaethau na difrod difrifol yn yr Aifft, Cyprus na Libanus, lle y teimlwyd y daeargryn hefyd.

Ond mae Ysgrifennydd Tramor y DU, James Cleverly, wedi cyhoeddi bod tri Phrydeiniwr ar goll yn sgil y trychineb. 

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth, dywedodd Mr Cleverly fod 35 o bobl eraill o'r DU yn cael cefnogaeth uniongyrchol gan y Swyddfa Dramor, yn sgil y daeargryn. 

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd criwiau chwilio ac achub yn cael eu hanfon i'r rhanbarth er mwyn cynorthwyo yn yr ymdrechion i achub bobl. 

Dywedodd yr Unol Daleithiau eu bod nhw’n “bryderus iawn” am y daeargryn yn Nhwrci a Syria ac yn cadw golwg ar y sefyllfa.

“Rydw i wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion Twrcaidd i gyfleu ein bod yn barod i ddarparu unrhyw gymorth sydd ei angen,” meddai cynghorydd diogelwch cenedlaethol y Tŷ Gwyn, Jake Sullivan, ar Twitter.

Llun: Effaith y daeargryn yn Diyarbakır, Twrci. Llun gan VOA yn y parth cyhoeddus.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.