'Gormod o bwyslais ar y Gymraeg o fewn ysgolion' medd teulu un o berchnogion tir Eisteddfod 2022

'Gormod o bwyslais ar y Gymraeg o fewn ysgolion' medd teulu un o berchnogion tir Eisteddfod 2022

Mae un o berchnogion tir Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 yn dweud bod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg o fewn ysgolion yng Nghymru.

Mewn cyfweliad gyda’r rhaglen materion cyfoes, Y Byd ar Bedwar, dywedodd Aled Lewis: “Mae’n neis bod fi’n gallu siarad Cymraeg a deall yr iaith Gymraeg ond eto i gyd dwi’n teimlo mae nhw’n rhoi gormod o bwyslais ac yn pwsho Cymraeg yn yr ysgolion.”

Mae Aled yn byw ar ei fferm deuluol gyda’i wraig, Larissa, a’u tri mab. Maen nhw’n mynychu’r ysgol leol, Ysgol Henry Richard, ac yn astudio’r mwyafrif helaeth o’u pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond mae'r teulu yn teimlo fod y Gymraeg yn "cael ei gwthio i lawr gyddfau" plant ysgol. 

Larissa sydd fel arfer yn cynorthwyo’r plant gyda’u gwaith cartref. Mae hyn yn gallu profi’n anodd iddi gan nad yw hi’n medru’r Gymraeg. Mae’n pryderu’n enwedig am ei mab hynaf, sydd yn ei gweld hi’n anodd gwneud y rhan fwyaf o’i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl Aled Lewis a’i wraig, mae angen rhoi dewis i’r plant ynglyn a’u defnydd o’r iaith Gymraeg.

“Os yw’r meibion yn gallu siarad Cymraeg a deall yr iaith Gymraeg, maen nhw’n mynd i gadw’r iaith i fynd os y’n nhw moyn. Dydw i ddim yn mynd i roi’r pwyslais yna arnyn nhw fod yn rhaid iddyn nhw siarad Cymraeg.”

Pan ofynnwyd iddo pam nad oedd e’n danfon ei blant i ysgol Saesneg, dywedodd: “Mae’r ysgol Saesneg 20 milltir i ffwrdd, ry’n ni moyn ei gadw e yn yr ardal.

Er hoffai Larissa i'w mab allu astudio trwy gyfrwng y Saesneg er mwyn hwyluso ei brofiad yn yr ysgol, nid yw hi’n erbyn y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ynddo’i hun.

“Siarad Cymraeg - does dim problem. Un miliwn o siaradwyr - iawn, ewch amdani’r gorau gallwch chi. Ond gwthio’r iaith yw lle mae’r broblem,” meddai.

“Yn yr ysgol, gadewch iddyn nhw ei siarad hi, dysgwch nhw i’w siarad fel byddech chi’n eu dysgu nhw i siarad Ffrangeg, Almaeneg neu unrhyw iaith arall, ond pan mae’n dod i addysgu’r plant trwy gyfrwng y Gymraeg, dyna le - yn fy marn i -  dyw hi ddim yn ymddangos fel petai’n gweithio."

Image
Toni Schiavone

‘Pob ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2050’

Fis Ionawr 14, fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal rali yng Nghaerfyrddin, gyda thorf yn gorymdeithio o Neuadd y Sir i swyddfa Llywodraeth Cymru yn Rhes Picton.

Yn ôl is-gadeirydd grŵp addysg y Gymdeithas, Toni Schiavone, diben y rali yw “sicrhau bod yna gynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg".

“Ond er mwyn cael y cynnydd yna, mae’n rhaid cael newid radical, trawsnewidiol yn y ffordd mae pobl yn ymdrin â’r Gymraeg ar bob lefel yng Nghymru.”

Yn ôl canlyniadau diweddar y Cyfrifiad, roedd yna ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros y degawd diwethaf. 

Cafodd y rali ei chynnal er mwyn cyflwyno saith o alwadau i Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn diogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. 

Dywedodd Toni: “Ym maes addysg, mae’n golygu deddf addysg Gymraeg newydd lle ry’n ni’n gosod pob ysgol ar hyd llwybr i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

“Y cam cyntaf yw sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei dysgu yn holl ysgolion Cymru, yn cael ei dysgu mewn ffordd sydd yn golygu bod plant yn gadael yr ysgol yn gwbl rugl yn y Gymraeg. Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny yw trwy gael ysgolion cyfrwng Cymraeg."

Image
Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg yn erbyn galwadau Cymdeithas yr Iaith

Er gwaetha’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn buddosoddi £44 miliwn yn yr iaith Gymraeg ar gyfer 2022/23.

Pan ofynnwyd i’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles os oedd e’n cytuno gyda galwadau Cymdeithas yr Iaith i bob ysgol fod yn un cyfrwng Cymraeg, dywedodd: “Dydw i ddim o blaid hynny - ry’n ni ar lwybr nawr lle mae rhifau plant sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol yn cynyddu.

“Mae gennym ni genedlaethau o bobl sy’n dewis addysg Gymraeg. Mae gennym ni frwdfrydedd dros eu cefnogi nhw i wneud hynny a lledaenu’r neges. Mae’n rhaid gwneud hynny mewn ffordd bwrpasol, gynaliadwy - cynyddu’r gweithlu ar yr un pryd. 

“Dydw i ddim eisiau i bobl fod mewn sefyllfa lle maen nhw’n teimlo mai dyma’r unig ddewis sydd ganddyn nhw - mae hynny’n newid deinamig dewisiadau pobl dwi’n credu. 

“Beth dwi eisiau’i weld yw ein bod ni’n cynyddu’r rhifau sy’n dewis addysg Gymraeg, manteisio ar hynny ac yn cael yr hyder a’r gallu i siarad Cymraeg.”

Gwyliwch raglen gyfan Y Byd ar Bedwar nos Lun, 20:00 ar S4C ac S4C Clic.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.